Gwobrau BAFTA Cymru: Llwyddiant mawr S4C

  • Cyhoeddwyd
bafta
Disgrifiad o’r llun,
Huw Stephens yng nghanol hwyl gwobrau BAFTA Cymru

Mae rhaglenni teledu S4C yn flaenllaw ymhlith enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru eleni - gan gynnwys rhaglen adloniant Dim Byd a'r rhaglen ddogfen Adam Price a Streic y Glowyr. Y rhaglen blant orau oedd #Fi.

Newyddion 9 oedd enillwyr y rhaglen newyddion orau, ar gyfer y rhaglen arbennig adeg yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis.

Fe gipiodd Y Byd ar Bedwar wobr hefyd yn y categori ar gyfer Materion Cyfoes.

Rhian Morgan oedd yr actores orau ar gyfer ei phortread o Gwen Lloyd yn Gwaith/Cartref.

Richard Harrington enillodd y wobr ar gyfer yr actor gorau, ar gyfer ei berfformiad fel y ditectif Tom Mathias yn Y Gwyll/Hinterland, ond doedd e ddim yn medru bod yn bresennol yn y seremoni yng Nghaerdydd nos Sul i dderbyn ei wobr.

Roedd yna lwyddiant hefyd i Gruff Rhys, enillydd ar gyfer cerddoriaeth gwreiddiol, a thim cynhyrchu Y Sioe ar gyfer eu rhaglenni o Lanelwedd.

Derbyniodd Menna Richards, cyn Gyfarwyddwr BBC Cymru, wobr arbennig BAFTA am ei chyfraniad i deledu yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,
Ennillwyr BAFTA Cymru ar y llwyfan

Enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru 2015

Gwobr Sian Phillips

Y cyfarwyddwr teledu Euros Lyn am ei gyfraniad i deledu'r rhwydwaith.

Gwobr arbennig BAFTA am gyfraniad i deledu

Menna Richards

Gwobr Gwyn Alf Williams

Adam Price a Streic y Glowyr (Tinopolis/S4C)

Gwobr torri drwodd

Clare Sturges; Sexwork, Love and Mr Right

Ffilm / Ffilm deledu

Tîm cynhyrchu A Poet in New York (BBC Cymru Wales/Modern Television)

Drama Teledu

Tim cynhyrchu Y Streic a Fi (Alfresco/Boom Cymru/S4C)

Actores

Rhian Morgan; Gwen Lloyd yn Gwaith/Cartref (Fiction Factory/S4C)

Actor

Richard Harrington , DCI Tom Mathias yn Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory/S4C)

Disgrifiad o’r llun,
Iddon Alaw a Kim Strobl yn derbyn y wobr ar ran criw 'Dancing in Circles'

Cyflwynydd

Rhod Gilbert; RAF Fighter Pilot: Rhod Gilbert's Work Experience (Zipline Creative)

Rhaglen blant (yn cynnwys animeiddio)

Eleri Tinnuche; #Fi (Boom Plant/S4C)

Dylunio gwisgoedd

Trisha Biggar: Da Vinci's Demons (Adjacent Productions/Phantom Four Films)

Materion Cyfoes

Tim cynhyrchu Y Byd ar Bedwar: Y Felan a Fi (ITV Cymru/S4C)

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

Marc Evans: Jack to a King: The Swansea Story (YJB Films Ltd)

Cyfarwyddwr: Ffuglen

Ashley Way: Y Streic a Fi (Alfresco/Boom Cymru/S4C)

Golygu

John Richards; Jack to a King: The Swansea Story (YJB Films Ltd)

Disgrifiad o’r llun,
Rhian Morgan yn derbyn y wobr am ei phortread o'r cymeriad 'Gwen Lloyd' yn Gwaith/Cartref

Rhaglen Adloniant

Dim Byd (Cwmni Da/S4C)

Cyfres Ffeithiol

Adam Price a Streic y Glowyr (Tinopolis/S4C)

Colur a Gwallt

Andrea Dowdall-Goddard; Set Fire to the Stars

Newyddion

Tîm cynhyrchu Newyddion 9 - Ymosodiad Paris (BBC Cymru Wales/S4C)

Cerddoriaeth Gwreiddiol

Gruff Rhys: Set Fire to the Stars (Mad as Birds Films/YJB Films/ Ffilm Cymru)

Ffotograffiaeth Ffeithiol

Keefa Chan; Fog of Sex: Stories from the frontline of student sex work (Visual Influence)

Ffotograffiaeth a Goleuo

Owen McPolin; Da Vinci's Demons

Dylunio Cynhyrchiad

Edward Thomas; Set Fire to the Stars

Disgrifiad o’r llun,
Telor Iwan a Bethan Rhys Roberts yn derbyn y BAFTA ar ran tîm Newyddion 9

Ffurf fer ac animeiddio

Tîm cynhyrchu Dancing in Circles

Dogfen Sengl

Tîm cynhyrchu Jamie Baulch-Looking for my Birth Mum (Avanti Media)

Sain

Bang Post Production; Jack to a King: The Swansea Story(YJB Films Ltd)

Effeithiau Arbennig a Gweledol

Tîm cynhyrchu A Poet in New York (BBC Cymru Wales/Modern Television/BBC Two)

Chwaraeon a Darllediad allanol

Tîm cynhyrchu Y Sioe (Boom Cymru/S4C)

Teitlau a Hunaniaeth Graffeg

Tîm cynhrychu Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory/S4C)

Awdur

Roger Williams: Tir (Joio/S4C)

Disgrifiad o’r llun,
Richard Harrington yn Y Gwyll