Taith i Bosnia
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o gefnogwyr pêl-droed Cymru ar eu ffordd i Bosnia i roi hwb i'r tîm cenedlaethol gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop 2016. Dim ond gêm gyfartal sydd ei hangen er mwyn sicrhau lle yn Ffrainc yr haf nesa'.
Ond be wyddoch chi am Bosnia-Herzegovina? Mae BBC Cymru Fyw wedi casglu ambell i ffaith am un o'r gwledydd newydd ddaeth i fodolaeth yn dilyn rhyfeloedd y Balcan yn y 1990au.
Maint
Mae Bosnia-Herzegovina, sydd i'r de o Croatia ac i'r dwyrain o Serbia, yn 51,209 km2 (19,772 milltir sgwar) o faint. Mae hyn bron ddwywaith a hanner maint Cymru a thua'r un maint a Costa Rica.
Ieithoedd
Yn ôl cyfansoddiad y wlad does dim iaith swyddogol, ond y dair iaith sy'n cael eu defnyddio amlaf yw Bosanski, yr iaith Serbiaidd a Serbo-Croat.
Arian
Y Marka yw'r arian sy'n cael ei ddefnyddio yn Bosnia, gyda 100 Feninga yn y Marka. Ond dydi hi ddim yn bosib cyfnewid y Marka tu allan i Bosnia, felly efallai bydd angen peiriant twll yn y wal ar gefnogwyr Cymru yn eitha buan wedi cyrraedd y wlad.
Prifddinas
Sarajevo yw prifddinas Bosnia. Roedd yr hyn ddigwyddodd yma ar 28 Mehefin 1914 yn drobwynt yn hanes y byd. Cafodd yr Archddug Franz Ferdinand o Awstria a'i wraig Sophie, Duges o Hohenbergei, eu saethu'n farw. Fe arweiniodd y digwyddiad at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Rhyfel 1992-1995
Rhwng Ebrill 1992 a Rhagfyr 1995 roedd rhyfel rhwng Gweriniaeth Bosnia-Herzegovina, gyda chefnogaeth Croatia, yn erbyn Republika Srpska a Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia.
Mae 'na amcangyfrifon bod rhwng 100,000 a 200,000 wedi eu lladd yn y brwydro.
Gemau Olympaidd
Yn 1984, Sarajevo oedd y ddinas gyntaf mewn gwlad gomiwnyddiol i lwyfanu Gemau Olympaidd y Gaeaf.
Yfed Rakija
Mae'r ddiod feddwol Rakija yn cael ei yfed yn aml yn Bosnia, fel yn holl wledydd y Balcan. Mae'r ddiod yn aml yn cael ei gynnig i ymwelwyr, dim ots pa adeg o'r dydd yw hi.
Fel arfer mae'n cynnwys rhwng 40% a 50% o gryfder alcoholig, ond fe all y cryfder fod fyny at 80%.
Y gemau cyntaf
Ym Medi 1993, yn eu gêm answyddogol gyntaf, fe enillodd Bosnia 3-1 yn erbyn Iran yn Tehran.
Ond colli oedd hanes Bosnia yn eu gêm ryngwladol swyddogol gyntaf fel aelodau o FIFA - 2-0 oedd hi i Albania ar 30 Tachwedd 1995.
Pêl-droedwyr enwog
Er mai Miralem Pjanić a Edin Džeko, y ddau o glwb Roma yn yr Eidal, yw chwaraewr enwocaf Bosnia ar hyn o bryd, mae gwreiddiau Zlatan Ibrahimović hefyd yn y wlad.
Mae tad Ibrahimović yn Fwslim o Bosnia, ac mae ei fam yn Gatholic o Croatia. Er hyn dewisodd Ibrahimović chwarae dros Sweden, y wlad lle cafodd ei eni.
Stadiwm cenedlaethol
Mae tîm cenedlaethol Bosnia-Herzegovina yn defnyddio dwy stadiwm ar gyfer eu gemau cartref; Stadiwm Bilino Polje yn ninas Zenica a Stadiwm Asim Ferhatović Hase yn Sarajevo.
Mae gan Bosnia-Herzegovina record wych pan yn chwarae yn y Stadiwm Bilino Polje er mai dim ond ychydig dros 15,000 o gefnogwyr sydd yn gallu gweld gemau yno, gan gynnwys gêm Cymru ar 10 Hydref.