Gwrthdrawiad: Gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Cafodd blodau eu gadael ar ffordd Parc Ninian wedi'r gwrthdrawiad
Mae gyrrwr wedi gwadu achosi marwolaeth bachgen 12 oed drwy yrru'n beryglus.
Mae Calvin Markall - 26 oed -wedi ei gyhuddo o daro Hamid Ali Khan yn ei gar Audi A3 wrth iddo geisio croesi'r ffordd yn ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd fis Chwefror eleni.
Fe ddioddefodd y bachgen anafiadau i'w ben, a bu farw yn yr ysbyty.
Fe ymddangosodd Markall - sy'n byw'n lleol - yn y llys fore Llun i wadu un achos o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd y flwyddyn nesa'.
Roedd Hamid yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yn y brifddinas