Carchar wedi i gŵn ymosod ar anifeiliaid
- Cyhoeddwyd

Mae mam i ddau wedi ei charcharu am dri mis wedi i'w chŵn ymosod ar anifeiliaid ar Ynys Môn.
Yn ogystal, mae Leanne Meredith wedi derbyn dedfryd ychwanegol o 18 mis dan glo sy'n ymwneud ag achosion eraill o fygwth tystion a ffoi mechnïaeth.
Fe glywodd y barnwr fod cŵn wedi ymosod ar darw mewn sied ar fferm ar Ynys Môn ym mis Gorffennaf 2012.
Roedd chwe chi yn rhan o'r ymosodiad, a dau o'r rheiny'n perthyn i Meredith, oedd yn byw gerllaw.
Bu'n rhaid difa'r tarw wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol, a chafodd dau gi Meredith eu rhoi mewn cenel gan Heddlu'r Gogledd.
£23,000
Am i Meredith ffoi yn ystod achos llys oedd yn ymwneud â mater arall, fe gostiodd cadw'r cŵn fwy na £23,000.
Ym mis Medi 2012, fe ymosododd tri o gŵn ar braidd o ddefaid ar lecyn o dir ger cartref Meredith, a chafodd naw o'r defaid eu lladd.
Roedd un o'r cŵn yn perthyn i Meredith, a chafodd ei saethu a'i anafu gan ffermwr.
Fe ddywedodd y barnwr fod yr ail achos yn fwy difrifol oherwydd "nad oedd hi wedi ymateb i rybuddion" wedi'r achos cyntaf.
Fe gafwyd Meredith yn euog wedi achosion gerbron ynadon ym mis Mai 2013.
Cyn iddi gael ei dedfrydu, roedd achos arall yn ei herbyn - roedd hi wedi ei chyhuddo o fygwth tystion. Fe ffôdd ar ddiwrnod ola'r achos hwnnw, ond cafodd ei chanfod yn euog yn ei habsenoldeb.
Fe glywodd y barnwr ei bod wedi dianc i Iwerddon am ddwy flynedd, ac wedi ei harestio ym mis Awst eleni.
Cafodd ei charcharu am 12 mis am fygwth tystion, chwe mis am ffoi mechnïaeth a thri mis am y troseddau yn ymwneud â'r cŵn.