Cymru'n codi i ail yn netholion rygbi'r byd
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi codi i'r ail safle yn netholion rygbi'r byd yn dilyn eu buddugoliaeth o 28-25 dros Loegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd nos Sadwrn.
Dyma'r safle uchaf erioed i Gymru ei chyrraedd, sy'n cael ei helpu gan y ffaith bod pwyntiau ar gyfer buddugoliaethau yn dyblu yn ystod y bencampwriaeth.
Mae Seland Newydd yn parhau ar frig y detholion, gyda Lloegr yn disgyn i'r chweched safle.
Mae gwrthwynebwyr nesaf Cymru, Fiji, yn ddegfed, tra bo Awstralia yn disgyn i'r trydydd safle.
Y 10 uchaf yn y detholion
- 1af - Seland Newydd - 92.89
- 2il - CYMRU - 87.31
- 3ydd - Awstralia - 86.75
- 4ydd - Iwerddon - 84.4
- 5ed - De Affrica - 82.66
- 6ed - Lloegr - 82.35
- 7fed - Ffrainc - 81.12
- 8fed - Yr Ariannin - 79.66
- 9fed - Yr Alban - 79.05
- 10fed - Fiji - 76.96