Dynes yn cyfaddef trywanu ei mam yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi cyfaddef trywanu ei mam mewn digwyddiad yn ei chartref yng Nghwm Tawe ym mis Ebrill.
Fe wnaeth Rhian Robinson, 32 oed o Bontardawe, bledio'n euog i gyhuddiad o glwyfo gyda bwriad wedi'r ymosodiad adawodd ei mam, Cheryl, 63 oed, gyda nifer o anafiadau.
Fe gadarnhaodd Ms Robinson ei enw a chyfaddef i'r cyhuddiad mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd.
Roedd hi wedi gwadu un cyhuddiad o geisio llofruddio mewn gwrandawiad blaenorol.
Bydd Ms Robinson yn cael ei dedfrydu ym mis Tachwedd.
Fe gafodd ei harestio yn dilyn y digwyddiad a'i throsglwyddo i ofal Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ble mae hi'n parhau i dderbyn triniaeth.