Streic bws ar ddyddiau gemau rygbi

  • Cyhoeddwyd
Bws Caerdydd

Mae cwmni Bws Caerdydd wedi cyhoeddi bod aelodau undeb Unite yn mynd ar streic am 48 awr o ddydd Iau, 1 Hydref, yn dilyn pleidlais yn y gweithle.

Gwrthododd yr aelodau gynnig o gyflog gwell gan y cwmni, a bydd gwasanaethau'r cwmni wedi'u cyfyngu ar y ddau ddiwrnod dan sylw.

Mae'r ddau ddiwrnod yn cyd-fynd â dwy gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Stadiwm y Mileniwm - Cymru yn erbyn Fiji ar nos Iau, 1 Hydref, a Seland Newydd yn erbyn Georgia y diwrnod canlynol.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Bws Caerdydd, Cynthia Ogbonna: "Rydym wedi gweithio'n ddiflino er mwyn ceisio cyrraedd canlyniad positif i bawb yn yr anghydfod yma ac rydym yn siomedig iawn nad ydym wedi llwyddo.

"Ein cynnig diweddara' oedd i gynyddu cyflogau o 2.5% a chadw taliadau bonws, ond yn anffodus cafodd y cynnig ei wrthod.

"Byddwn yn cynghori cwsmeriaid i edrych ar ein gwefan i weld manylion yr amserlenni, neu'r gwefannau cymdeithasol, neu gallwch ffonio ein llinell gymorth a gwrando ar wasanaethau radio am ddiweddariadau.

"Rydym yn ymddiheuro eto am unrhyw anghyfleustra i'n cwsmeriaid, ac fe fyddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau ein bod yn cadw Caerdydd i symud yn y cyfnod yma."