Curo'r hen elyn
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n dipyn o gêm yn doedd? Gohebydd Rygbi BBC Cymru, Gareth Charles sy'n pwyso a mesur buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr a gobeithion y crysau coch o gyrraedd rownd yr wyth ola:
'Bys troed yn y rownd nesa'
Ar ddiwedd gêm gynta' Cwpan y Byd yn Twickenham ro'n i'n neidio lan a lawr yn gweiddi ar y teledu ar y ffordd naïf orffennodd Fiji y gêm i roi pedwerydd cais a phwynt bonws i Loegr.
Nos Sadwrn yn Twickenham, ro'n i'n neidio lan a lawr yn gweiddi mewn gorfoledd ar y ffordd arwrol orffennodd Cymru'r gêm i guro Lloegr a rhoi bys troed yn rownd yr wyth olaf.
Fe ddangosodd Cymru broffesiynoldeb a hunan-gred anhygoel, yn enwedig yn wyneb rhestr anafiadau gyda'r gwaetha ar gof a chadw. Roedd eglurder meddwl a gweithred Cymru mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r ffordd gollodd Lloegr eu ffordd, eu mantais a'r gêm.
Pwy a saif yn y bylchau?
Cael a chael oedd hi drwy gydol y gêm. Roedd Lloegr yn rhagori yn y sgrymiau (er bod y dyfarnwr Jerome Garces wedi gwneud sawl penderfyniad anghywir yn yr ardal hon) a chafodd Cymru byth feddiant o safon i greu'r cyflymder yn eu gêm i dorri amddiffyn ardderchog y Saeson.
Troed dde Dan Biggar a'i record o 23 pwynt gadwodd Cymru ynddi ac fe gas Taulupe Faletau ail hanner anferth pan oedd angen i Gymru godi'u gêm.
Tra bo Cymru'n dal o fewn un sgôr roedden nhw'n gwbl grediniol bod ganddyn nhw'r gallu i gipio'r fuddugoliaeth - a fel 'na drodd pethau mas hyd yn oed gyda maswr yn gefnwr, asgellwr yn ganolwr a mewnwr yn asgellwr!
Y cwestiwn nawr yw pwy sy'n mynd i lanw'r bylchau mewn dwy gêm anferth. Mewn gwirionedd mae'r cwpwrdd yn reit wag. Mae pwysau ar y cnewyllyn sy'n dal yn holliach am y ddwy gêm sydd ar ôl a gweddïo na fydd rhagor o anafiadau.
Hyd yn oed os bydd Cymru'n curo Fiji nos Iau, 'dyn nhw ddim yn gwbwl saff. Mae angen i Awstralia wneud ffafr â ni nos Sadwrn - mae'r diawl cais ola 'na ar y noson gynta' yn dal i achosi problem!