Disgwyl llanw anarferol o uchel ar hyd yr arfordir
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y bydd llanw anarferol o uchel ar hyd arfordir Cymru yn ystod dydd a nos Fawrth. Daw'r llanw uchel iawn hwn yn sgîl y lleuad llawn arbennig a welwyd nos Sul, 27 Medi.
Gan fod y lleuad yn ei ran agosaf o'i orbit o'r ddaear, roedd yn ymddangos yn fwy yn yr awyr, ac mae effaith ei ddisgyrchiant yn gryfach ar y llanw, gan achosi llanw uwch nag arfer.
Bydd llawn uchel yn ymddangos:
- Yng Nghaerdydd am 03:33 a 20:56 - gydag ystod y llif yn 13.3m
- Yn Aberystwyth am 09:16 a 21:36
- Yng Nghonwy am 12:13 a 00:30 (fore Mercher)
Y llanw uchel yn Llanmorlais ar Benrhyn Gŵyr fore Mawrth
Mae'n anhebygol y bydd y llanw uchel yn achosi llifogydd heblaw am ardaloedd isel iawn yng ngogledd Gŵyr a dyffryn Wysg.
Mae disgwyl y bydd llanw uchel iawn 10.4m o uchder yn afon Hafren tua 20:50 ac mae disgwyl i'r llanw yma bara am ryw 30 munud.
Ffynhonnell y llun, @AlDarkSkyWales/Twitter
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2015