Cyfarwyddwr yn saethu ffilm 'Y Llyfrgell' yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Ffilm
Disgrifiad o’r llun,
Euros Lyn tu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol

Mae un o gyfarwyddwr teledu mwyaf blaenllaw Prydain - ac enillydd Gwobr Sian Phillips yn seremoni BAFTA Cymru nos Sul - yn saethu ei ffilm hir gyntaf erioed yn Aberystwyth ar hyn o bryd.

Mae Euros Lyn, sy'n wreiddiol o Gwm Tawe, wedi ennill sawl gwobr am ei waith ar gyfresi Sherlock, Broadchurch, Last Tango in Halifax a Happy Valley.

Ond bellach mae e yng nghanol saethu addasiad Fflur Dafydd o'i nofel iasol "Y Llyfrgell", a enillodd wobr goffa Daniel Owen yn 2009. Dyma ydy cynhyrchiad cyfrwng Cymraeg cyntaf Euros ers 2000.

"Ar ôl darllen sgript Fflur, a'r nofel, fe feddyliais i pa mor braf fydde hi i wneud "thriller" gyffrous am ddwy lyfrgellwraig sydd eisiau dial ar y dyn maen nhw'n meddwl a lofruddiodd eu mam, ac i gyd i gael ei osod yn Aberystwyth yn y Llyfrgell Genedlaethol" meddai.

"Mae hi mor bwysig pan ti'n lleoli stori rhywle bo ti ishe cael teimlad o'r lle. Ti ishe gwybod pam fod y lle yma'n wahanol i unrhyw le arall ar y ddaear, felly ry ni'n ceisio gweld ochr o Aberystwyth nad 'y ni wedi gweld o'r blaen. "

Ffynhonnell y llun, Scott Waby/Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Y criw ffilmio yn brysur wrth eu gwaith

"Her i addasu i'r sgrîn"

Mae hi wedi bod yn broses hir i'r awdures, a chyd-gynhyrchydd y ffilm, Fflur Dafydd i gyrraedd y man hwn - rhyw bum mlynedd i gyd, yn sicrhau cyllid i ddatblygu'r syniad a ffilmio. Er mai nofel ydy "Y Llyfrgell", fel ffilm y dychmygodd Fflur y syniad hwn yn wreiddiol, ac mae'r dasg o'i haddasu i'r sgrin fawr wedi bod yn her.

"Dwi wedi gorfod cyfarwyddo cryn dipyn ar y stori er mwyn gwneud i hon i weithio fel cynhyrchiad, ac mewn ffordd mae'n rhywbeth braf i awdur i'w wneud, i ail-ddyfeisio'r stori mewn ffordd sy'n mynd i synnu cynulleidfa achos dy nhw ddim yn gwybod beth sy'n digwydd - er eu bod nhw'n nabod y cymeriadau - ac mae hynny'n beth cyffrous.

"Ond o weithio gydag Euros Lyn fel cyfarwyddwr dwi'n meddwl ein bod ni wedi ffeindio ffordd o greu syniadau sydd yn symud y stori ymlaen i roi neges newydd allan i'r gynulleidfa, achos ni hefyd yn meddwl am blatfform rhyngwladol, felly mae 'na rhyw elfen o'r dychan wedi gorfod mynd, a meddwl mwy am stori arswyd, stori gyffro sy'n mynd i yrru'r syniad. "

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,
Mae cyfress Y Gwyll ar S4C wedi dod a sylw i ardal Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf

Y Llyfrgell Genedlaethol a'r 'Cardi Noir'

Nid dyma'r unig gynhyrchiad teledu i gael ei saethu yn Aberystwyth a'r cyffiniau - ers 2013 mae'r dref wedi serennu yng nghyfres "Y Gwyll/Hinterland". Bellach mae'r gyfres honno wedi cael ei dangos mewn sawl gwlad ar draws y byd.

Ac mae rheolwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn gobeithio y bydd y ffilm hon yn denu mwy o bobl i ymweld â'r sefydliad ar ôl ei gweld ar y sgrin fawr.

Dywedodd Avril Jones, Cyfarwyddwr y Casgliadau: "Mae pensaernïaeth y Llyfrgell yn naturiol yn cyfleu naws a dirgelwch ar gyfer prosiect o'r fath. Mae'n adeilad eiconig, yn gyfarwydd iawn i gynifer yma yng Nghymru - hyd yn oed os nad ydynt wedi ymweld â hi. Mae'n gyfle felly i bobl ddod i adnabod yr adeilad mewn ffordd wahanol - gobeithio bydd hyn yn annog pobl i ddod yma i ymweld â'r sefydliad."

Ffynhonnell y llun, Scott Waby/Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Saethu golygfa arall o 'Y Llyfrgell

Mesurau diogelwch

Mae'r holl ffilmio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei wneud y tu allan i oriau gwaith, pan fydd yr ystafelloedd darllen a'r storfeydd wedi eu cau. Bu'n rhaid i'r Llyfrgell a'r cynhyrchwyr gytuno ar fesurau diogelwch llym cyn caniatáu unrhyw ffilmio yn yr adeilad, er mwyn gwarchod y casgliadau a'r adeilad ei hun - a gafodd ei difrodi mewn tân yn 2013.

Ac yn ôl Euros Lyn, mae'r ffaith eu bod nhw'n ffilmio mewn sefydliad o statws y Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn her. "Rhaid i bob aelod o'r criw gael porthor i agor pob drws iddyn nhw, a dyw hynny ddim yn hawdd pan ti'n ffilmio, achos ti wastad yn anghofio rhywbeth ar y trycs neu wisg neu lamp, felly mae hynny'n sialens.

"Dy ni ddim yn cael mynd a bwyd a diod mewn i'r Llyfrgell chwaith. Ac mae 'na ffactorau eraill - ni'n gwbod o glawr llyfr Fflur bod yna ddrylliau yn y stori, felly mae saethu dryll yn y Llyfrgell yn dipyn o sialens a byddwn ni'n dibynnu ar effeithiau arbennig er mwyn gwneud hynny."

Bydd y ffilm yn barod ym mis Mawrth, cyn iddi gael ei dangos mewn gwyliau ffilm rhyngwladol. Disgwylir iddi gael ei dangos ar S4C ddiwedd 2016.

Disgrifiad o’r llun,
Awdures a chyd-gynhyrchydd y ffilm yw Fflur Dafydd