Gwrthbleidiau'n beirniadu ad-drefnu cynghorau lleol

Montage

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am y modd y mae gweinidogion wedi delio gydag ad-drefnu llywodraeth leol, cyn dadl yn y Senedd yn ddiweddarach dydd Mawrth.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cyhuddo'r llywodraeth o wastraffu arian, tra bod y Ceidwadwyr yn dweud fod y llywodraeth wedi gwneud 'smonach' o gynlluniau i ad-drefnu.

Fe wnaeth llefarydd ar ran y gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews gyhuddo'r Ceidwadwyr o gynllunio toriadau dwfn i gyllidebau awdurdodau lleol.

Fis Mehefin fe wnaeth Leighton Andrews gyhoeddi cynlluniau i gwtogi niferoedd y cynghorau Cymreig o 22 i wyth neu naw.

Ym mis Ionawr 2014 fe wnaeth comisiwn oedd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru awgrymu y dylai rhwng 10 a 12 o gynghorau gael eu sefydlu yn y dyfodol.

Image caption Leighton Andrews yw Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Costau

Mae ffigurau sydd wedi dod i law'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £130,332 ar waith y Comisiwn Williams - comisiwn trawsbleidiol dan ofal cyn-brif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Paul Williams.

"Roedd gweinidogion Llafur, wrth wario dros £130,000 i sefydlu Comisiwn Williams, dim ond i anwybyddu ei awgrymiadau'n llwyr, yn wastraff anferthol o arian," meddai Peter Black A.C. llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar lywodraeth leol.

"Pam mynd drwy'r ymdrech a'r gost o ymgynghoriad llawn os bydd yr ymateb yn cael ei anwybyddu?"

"Mae gweinidogion Llafur wedi bod yn ystyfnig ar y mater o'r cychwyn - eu ffordd nhw yw e, neu dim o gwbl.

"Weithiau maen nhw'n anghofio eu bod wedi methu a chael mandad llawn yn yr etholiad diwethaf, ac nid oes hawl ganddyn nhw i ymddwyn fel llywodraeth fwyafrifol gyda dim ond hanner y seddau.

"Mae'r Deomcratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn ceisio rhoi pwrpas i'r bil hwn drwy gyflwyno newid sydd ei angen yn wirioneddol i'r drefn bleidleisio i etholiadau cyngor lleol.

"Os yw gweinidogion Llafur yn penderfynu fod amddiffyn eu sefyllfa mewn pencadlysoedd cynghorau yn fwy pwysig na phleidleiswyr yn gallu pleidleisio'n dêg adeg etholiad, fydd gan y Deomcratiaid Rhyddfrydol Cymreig ddim dewis ond pleidleisio yn erbyn y bil hwn.

"Rwy'n gobeithio y bydd pleidiau eraill yn ymuno gyda ni", ychwanegodd.

Image caption Map posib ar gyfer cynghorau Cymru, fyddai'n cynnwys wyth sir

Etholiad

Byddai unrhyw newidiadau i nifer y cynghorau yn cael eu gwneud yn dilyn etholiadau'r Cynulliad fis Mehefin nesaf ac mae disgwyl i'r holl bleidiau esbonio eu gweledigaeth ar ddyfodol llywodraeth leol yn eu maniffestos ar gyfer yr etholiad yn ystod y gwanwyn nesaf.

Yn y cyfamser mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o wneud 'smonach' o'r cynllun i geisio ad-drefnu llywodraeth leol.

Mae ffigurau sydd wedi eu rhyddhau i'r Ceidwadwyr gan 15 o'r 22 awdurdod lleol yn dangos eu bod ar y cyd wedi gwario £36m ar daliadau diswyddo yn 2014/15 - cynnydd o'r ffigwr o £24.5m yn 2013/14.

Cafodd bron i £12m ei wario gan Gyngor Caerdydd, sef y cyngor mwyaf yng Nghymru, gyda Chyngor Bro Morgannwg yn gwario llai nag unrhyw gyngor arall ar y taliadau - sef £276,000.

"Bydd trethdalwyr Cymru yn dychryn wrth glywed bod taliadau diswyddo gan gynghorau lleol wedi cynyddu bron i 50% yn y 12 mis diwethaf", meddai Janet Finch Saunders A.C., llefarydd yr wrthblaid ar lywodraeth leol.

"Tra bod toriadau Llafur i gyllid llywodraeth leol wedi gorfodi cynghorau i edrych am arbedion effeithlonrwydd, bydd trethdalwyr yn flin i glywed bod eu biliau treth y cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu pecynnau gadael i staff cynghorau.

"Mae bron i £100m wedi ei wario ar daliadau diswyddo staff cynghorau yn y tair blynedd ddiwethaf, ond fe allai'r ffigwr yma fod yn ganran bychan o'r hyn i ddod os bydd Llafur yn parhau gyda'r cynlluniau i uno cynghorau", meddai Janet Finch Saunders.

'Arbedion tymor hir'

Dywedodd llefarydd ar ran y gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews: "Mae toriadau'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi gorfodi llywodraeth leol i wneud penderfyniadau anodd i wneud arbedion tymor hir.

"Nawr yng Nghymru mae'r Ceidwadwyr am dorri cyllidebau llywodraeth leol o 12% yn ychwanegol. Byddai hyn yn golygu codiadau sylweddol yn nhreth y cyngor, gan olygu colli gwasanaethu anorfodol a diswyddiadau sylweddol ar draws Cymru. Byddai'r gost i'n cynghorau a'n cymunedau'n ddifrifol."

Image caption Pencadlys Cyngor Caerdydd - mae'r cyngor wedi talu £12m mewn taliadau diswyddo yn 2014/15 yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law'r Ceidwadwyr