Cenhedloedd Unedig: Sancsiynau yn erbyn Jihadwyr

Left to right: Omar Hussain, Aqsa Mahmood, Nasser Muthana and Sally Jones
Image caption Omar Hussain, Aqsa Mahmood, Nasser Muthana a Sally-Anne Jones.

Yn dilyn cais gan Lywodraeth San Steffan mae'r Cenhedloedd Unedig wedi gosod sancsiynau ar bedwar o bobl o Brydain gan gynnwys dyn o Gaerdydd sydd wedi mynd i Syria i ymladd neu recriwtio ar ran y grwp sy'n cael ei adnabod fel y Wladwriaeth Islamaidd.

Y pedwar sydd wedi eu gosod ar restr sancsiynau'r Cenhedloedd Unedig yw Nasser Muthana o Gaerdydd, Aqsa Mahmood o Glasgow, Omar Hussain o High Wycombe a Sally-Anne Jones o Chatham, Caint.

Mae'r sancsiynau yn cynnwys gwahardd y pedwar rhag teithio a rhewi eu hasedau.

Nod y sancsiynau yw ceisio atal pobl rhag ymuno a grŵp IS.

Yn ôl yr heddlu mae o leaif 700 o Brydeinwyr wedi teithio i Syria ac Iraq er mwyn ymuno a grwpiau Jihadaidd.

Credir bod tua hanner o'r nifer uchod wedi dychwelyd i Brydian.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan mai hwn yw'r tro cyntaf mewn 10 mlynedd i Brydain ofyn i enwau gael eu cynnwys ar restr sancsiynau'r Cenedlaethol Unedig.

Image copyright AP
Image caption Mae'r grwp IS yn rheoli ardaloedd eang o fewn Irac a Syria

Fe gafodd tystiolaeth ei gyflwyno i ddangos fod y pedwar yn cymryd rhan mewn "ariannu, cynllunio a pharatoi gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r grŵp IS.

Ymhlith y gweithgareddau oedd defnyddio'r we er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud ffrwydron.

Un o'r cyhuddiadau yn erbyn Nasser Muthana, 21 oed, yw ei fod wedi ymddangos mewn fideos yn dangos pobl yn cael eu dienyddio. Ond mae ei dad wedi gwadu mai ei fab oedd y dyn yn y fideo.

Fe wnaeth o deithio i Syria yn 2013 ac mae'n cael ei ddisgrifio fel un o ymladdwyr IS.