Gatland yn gwneud tri newid i wynebu Fiji

  • Cyhoeddwyd
warren GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Warren Gatland wedi gwneud tri o newidiadau

Mae Cymru wedi cyhoeddi enw'r 15 fydd yn wynebu Fiji yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd am 16:45 dydd Iau.

Matthew Morgan sydd wedi ei ddewis yn gefnwr yn absenoldeb Liam Williams.

Mae'n un o dri newid i'r tîm drechodd Lloegr yn Twickenham.

Hefyd wedi eu dewis mae'r asgellwr Alex Cuthbert (Gleision) a'r canolwr Tyler Morgan (Dreigiau).

Mae gweddill y tîm yn aros yr un fath a'r un wnaeth guro Lloegr 25-28 yn Twickenham.

Mae James Hook wedi ei ddewis ymhlith yr eilyddion.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Matthew Morgan yn ennill ei bumed cap yn erbyn Fiji

Pe bai Cymru'n ennill yna byddant yn mynd i frig Grŵp A am y tro.

Bydd Lloegr yn wynebu Awstralia yn Twickenham nos Sadwrn am 20:00.

Bu'n rhaid i hyfforddwr Cymru wneud nifer o newidiadau yn dilyn mwy o anafiadau i'w olwyr yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.

Mae'r canolwr Scott Williams a'r asgellwr Hallam Amos allan o'r gystadleuaeth a bydd yn rhaid i'r cefnwr Liam Williams golli'r gêm yn erbyn Fiji wedi iddo ddioddef anaf i'w ben.

"Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar lwyddiant a momentwm y penwythnos," meddai Warren Gatland.

"Mae Fiji wed perfformio yn ddau yn eu gemau agoriadol, a byddant yn gobeithio adeiladu ar hynny.

"Rydym wedi gwneud tri o newidiadau oherwydd anafiadau ond rydym wedi dewis tîm cryf.

"Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Stadiwm y Mileniwm ddydd Iau, a chael y dorf i'n cefnogi mewn gem bwysig."

Cymru: Matthew Morgan; Alex Cuthbert, Tyler Morgan, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Tomas Francis, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (Capten), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Samson Lee, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook.