Carchar wedi ei ohirio am daflu sbwriel
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Caernarfon, mae perchennog cwmni sgipiau wedi ei ddedfrydu i bedwar mis o garchar wedi ei ohirio am flwyddyn, am daflu gwastraff heb drwydded yn Llanerchymedd ar Ynys Môn.
Doedd Victor Andrew Williams o Vic's Skips ddim yn bresennol yn y llys i glywed ei ddeddfryd, am ei fod yn cael triniaeth ysbyty.
Yn ôl ym mis Mai, dyfarnwyd fod Mr Williams wedi elwa o'i weithredoedd troseddol ac y byddai'n rhaid iddo dalu £400,000 o'i asedau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn gobeithio y bydd yr achos hwn yn anfon neges bositif i'r rheiny sydd yn y diwydiant gwastraff, na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n goddef gweithredoedd y rheiny sy'n elwa o dorri'r gyfraith, niweidio cymunedau lleol a gwneud drwg i'r amgylchedd."