MMR: Ffigyrau ar eu lefel uchaf yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y plant sydd wedi cael y brechlyn MMR wedi codi i'w lefel uchaf yng Nghymru, yn ôl ffigyrau newydd.
Dangosodd ystadegau fod 93% o blant, gyrhaeddodd eu pen-blwydd yn bump yn y flwyddyn oedd yn gorffen ar 31 Mawrth 2015, wedi cael dau ddos o'r brechlyn.
Dyma'r ffigwr uchaf erioed yng Nghymru.
Drwy Gymru cafodd 95.8% o blant y brechlyn erbyn iddyn nhw gael eu pen-blwydd yn ddwy oed.
Roedd y ganran ar ei hucha ar Ynys Môn, gyda 98% o blant wedi eu brechu.
Mae'r brechlyn yn amddiffyn plant rhag y frech goch, clwy'r pennau neu'r dwymyn doben a'r frech Almaenig.
Yn ôl Mudiad Iechyd y Byd, mae angen i 95% o blant gael yr MMR er mwyn atal y frech goch rhag lledaenu.