Cyngor i ymgynghori eto ar ddyfodol ysgolion Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
cyngor dinbych
Disgrifiad o’r llun,
Cyngor Sir Ddinbych

Fe fydd Cyngor Sir Ddinbych yn ymgynghori eto oherwydd cynlluniau i godi ysgol newydd a chau dwy ysgol gynradd yn ardal Rhuthun.

Ymysg y newidiadau posib, gallai Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn gau yn 2017 yn hytrach na 2016.

Yn ôl y cyngor, fe fydd hyn yn rhoi mwy o amser i'r ddwy ysgol gydweithio cyn uno.

Mae rhai rhieni wedi beirniadu'r cynllun i uno Pentrecelyn, sy'n ysgol cyfrwng Cymraeg, gydag ysgol ddwyieithog Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd.

Roedd rhai o rieni Pentrecelyn yn pryderu am effaith y newidiadau posib ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Penderfynodd y cabinet gau Ysgol Rhewl yn Rhuthun yn Awst 2017, gan drosglwyddo disgyblion i Ysgol Pen Barras, ysgol cyfrwng Cymraeg, neu Ysgol Stryd y Rhos yn y dref.

Bydd Ysgol Rhewl yn cau oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, aelod cabinet dros addysg y sir: "Fe fydd cyfarfod pellach fis nesa i drafod amserlenni ac unrhyw bryderon sydd gan y rhieni."