Cyn-athro yn ddieuog: 'Anghyfiawnder Pallial'
- Cyhoeddwyd

Mae athro wedi ymddeol, oedd yn ddieuog o droseddau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol, wedi dweud fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn hunllef iddo ef, ei gyn-wraig, a'i deulu.
Mae Dafydd Vevar, 64 oed o Wrecsam, ymddeolodd yn gynnar oherwydd iechyd gwael, wedi beirniadu "anghyfiawnder ymchwiliad Pallial" wedi iddo gael ei "lusgo drwy'r llysoedd".
Dywedodd ei fod ef ac eraill, ar ôl gwneud "gwaith da gyda phlant" dros y blynyddoedd, wedi cael eu hunain mewn sefyllfa ofnadwy flynyddoedd yn ddiweddarach.
"Mae 'na lawer o bobl ddiniwed wedi cael eu herlid," meddai.
'Uffern ar y ddaear'
Dywedodd cyn athro Ysgol Maes Garmon ei fod yn pryderu am y ffordd mae swyddogion wedi ymddwyn - "troi i fyny yng nghartrefi pobl yn gynnar yn y bore yn barod i dorri eu drysau i lawr."
"Mae hyn wedi bod yn uffern ar y ddaear i mi - mae'n anghyfiawnder mawr dod â fi i'r llys.
"Ac mae hyn wedi dinistrio fy mywyd yn llwyr," meddai a dweud ei fod mewn uned seiciatrig ar un adeg oherwydd y sefyllfa.
"Dwi wedi gorfod cymryd cyffuriau gwrthseicotig," meddai.
"Dylai fod mwy o sensitifrwydd pan mae honiadau o'r fath yn cael eu gwneud."
Fel pe bai'n euog
Dywedodd ei fod wedi cael ei drin fel pe bai'n euog o'r cychwyn cyntaf.
Roedd ei dad yn ficer, meddai. "Roedd yn ganon, fy mrawd yn blismon wedi ymddeol ac roeddwn i yn athro.
"Rwyf wedi gweithio'n galed ar hyd fy oes, ac yna wedi gorfod wynebu hyn. Roeddwn yn gwbl ddiniwed."
Dywedodd ei fod yn ddiolchgar am y gefnogaeth enfawr gafodd gan ei deulu, ffrindiau a chyn-weithwyr a ysgrifennodd eirda iddo.
Roedd y gymuned hefyd yn ei gefnogi er ei fod yn flin pan ofynnwyd iddo beidio â mynychu un o'i dafarndai lleol ar ôl cael ei gyhuddo.
'13 blynedd'
"Rwyf wedi byw yn ardal Wrecsam am 13 blynedd bellach ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn fy nghefnogi," meddai. "Roedden nhw'n credu fy mod yn ddieuog."
Ar ôl y dyfarniad, meddai, nid oedd yn teimlo fel dathlu ar ôl yr hyn yr oedd wedi bod drwyddo.
Roedd wedi gwadu cyhuddiad o annog bachgen i ymosod yn anweddus ar fachgen arall, sydd bellach wedi marw, a hynny yn Neuadd Gwastad, cartref John Allen, perchennog Cymuned Bryn Alyn, yn 1984.
Roedd yn wynebu cyhuddiad arall o ymosod yn gorfforol ar breswylydd arall, Stephen Fong, sydd bellach yn 51 oed, rhwng 1978 a 1980.
Fe gymerodd hi awr i'r rheithgor benderfynu.
Gwadodd achosi unrhyw drais corfforol tra'n gweithio yng Nghymuned Bryn Alun.
Dywedodd na fyddai byth yn cam-drin plentyn, ac nad oedd erioed wedi gwneud hyn a dywedodd fod y cyhuddiadau'n ofnadwy.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry: "Rydych chi'n ddieuog ... yn cael eich rhyddhau i fynd ymlaen â'ch bywyd."