Trafod cais dadleuol i godi 35 o dai yn Nhrefdraeth
- Cyhoeddwyd

Bydd Pwyllgor Rheoli Datblygu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystyried cais dadleuol i godi 35 o dai ar gaeau gwyrdd ar gyrion Trefdraeth fore Mercher.
Mae disgwyl y bydd ymgyrchwyr y tu allan i swyddfeydd y parc yn Noc Penfro cyn y penderfyniad.
Fel rhan o'r cais mae bwriad i godi 21 o dai fydd yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored, a 14 o dai fforddiadwy.
Bydd 40% o'r cyfanswm o dai yn rhai fforddiadwy.
Mae swyddogion cynllunio wedi nodi mewn adroddiad fod y cyflenwad o dir ar gyfer tai o fewn ffiniau'r Parc Cenedlaethol "yn is na tharged Llywodraeth Cymru," a bod rhaid ystyried ceisiadau i godi tai ychwanegol "yn ofalus".
Y bwriad yw codi saith uned gydag un ystafell wely, pump gyda dwy ystafell wely a dwy gyda thair ystafell wely.
Mwy o dai haf
Mae'r awdurdod wedi derbyn 58 o lythyrau yn gwrthwynebu'r datblygiad, gyda 14 o blaid.
Cafodd grŵp ei sefydlu yn erbyn y cais ynglŷn â safle ger Feidr Eglwys a Feidr Bentinck.
Yn ôl y grŵp, mae'r ymgynghoriad ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei "anwybyddu yn llwyr gan swyddogion", a bydd caniatáu'r cais yn golygu adeiladu mwy o dai haf yn Nhrefdraeth.
Mae Cyngor Tref Trefdraeth wedi cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i'r ffaith y bydd 35 o dai yn cael eu hadeiladu ar y safle.
Yn ôl y cyngor, 20 o dai sydd wedi eu clustnodi ar gyfer y safle yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Mae pryder hefyd ynglŷn â lefelau traffig i'r safle ar hyd ffyrdd cul ger ymyl canol Trefdraeth.
Mae swyddogion cynllunio yn argymell derbyn y cais gyda thua 27 o amodau.