Safonau iaith: Anfon copi terfynol at gyrff cyhoeddus
- Cyhoeddwyd

Mae Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, yn anfon manylion safonau iaith i 26 o gyrff cyhoeddus yn nodi eu cyfrifoldebau nhw.
Bydd Llywodraeth Cymru, cynghorau a'r parciau cenedlaethol yn derbyn copi terfynol yn y dyddiau nesa o'r safonau y bydd rhaid iddyn nhw weithredu.
Pwrpas y safonau yw gosod dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg a gwneud yn siŵr nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Mae'r comisiynydd wedi bod yn ymgynghori gyda'r cyrff cyhoeddus ynglŷn â sut y dylen nhw gael eu gweithredu.
Y sector breifat
Bydd gan y sefydliadau chwe mis i baratoi cyn i'r mesurau newydd ddechrau dod i rym ar 26 Mawrth 2016 ac mae modd iddyn nhw apelio.
Bydd sefydliadau cyhoeddus eraill a rhai yn y sector breifat yn cael gwybod maes o law ba safonau y bydd rhaid iddyn nhw weithredu.
Yn 2014 fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod y safonau yn "garreg filltir o bwys" ond mae eraill wedi beirniadu'r cynlluniau.
Dywedodd Dyfed Edwards, llefarydd iaith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae'r hyn sy'n bwysig i'r Gymraeg yn Sir Fynwy o bosib yn wahanol i'r hyn sy'n bwysig yn Sir Fôn, er enghraifft.
"Mae angen sicrhau felly hyblygrwydd fel bod pob cyngor yn hoelio sylw sydd yn mynd i gynyddu defnydd y Gymraeg a nifer y siaradwyr Cymraeg. Wedi'r cyfan dyna sydd yn bwysig yn y pen draw."
Mae rhai, fel Cyngor Wrecsam, wedi codi pryderon am gost gweithredu'r safonau a honni y byddai'n costio £700,000 y flwyddyn.
Teimlo bod y broses yn un hir mae'r mudiadau iaith.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i'r Iaith: "Dw i'n poeni bod arian mawr yn mynd i gael ei wario ac ymdrech fawr ar y safonau hyn fydd ddim yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth mawr i sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y tŷ, ar yr aelwyd, ar y stryd, mewn siopau, gweithgareddau i bobl ifanc ac yn y gwaith."
Lansio deiseb
Mae mudiad Cymdeithas yr Iaith wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bobl hawliau i wasanaethau i'r Gymraeg yn y sector breifat.
Dywedodd Manon Elin, llefarydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg y mudiad: "Mae'n destun pryder mawr - bum mlynedd ers i'r ddeddfwriaeth iaith gael ei phasio nad yw'r comisiynydd na'r llywodraeth wedi defnyddio'r holl bwerau sydd gyda nhw.
"Mae cannoedd ar filoedd o bobl Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg sylfaenol bob dydd - ar y trenau a'r bysiau a chan gwmnïau ffôn ac ynni - achos eu diffyg gweithredu.
"Cafodd Mesur y Gymraeg ei basio'n unfrydol gan y Cynulliad. Drwy beidio â'i weithredu felly, mae'r comisiynydd yn rhwystro ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru."