Honiad ffug athrawes am bennaeth

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Ardudwy, HarlechFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr honiad ei wneud yn erbyn pennaeth Ysgol Ardudwy, Harlech

Fe allai athrawes o'r canolbarth gael ei thynnu oddi ar y gofrestr ddysgu ar ôl iddi esgus bod yn ferch 13 oed er mwyn gwneud honiad wrth elusen Childline fod prifathro mewn ysgol arall wedi cyflawni ymosodiad rhyw arni.

Clywodd gwrandawiad disgyblu yng Nghaerdydd fod Eleri Edwards, 32 oed, wedi dweud wrth yr elusen fod y prifathro wedi cyffwrdd ynddi mewn 'modd amhriodol', ond nid oedd yr honiad yn un gwir.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i ymchwilio ac fe dderbyniodd Edwards rybudd swyddogol am wneud yr honiad ffug yn erbyn Tudur Williams, pennaeth Ysgol Ardudwy, yn Harlech.

Ymddygiad

Dywedodd y Swyddog Cyflwyno Louise Price wrth y gwrandawiad disgyblu proffesiynol: "Rydych wedi bod yn euog o ymddygiad oedd yn disgyn islaw'r safonau disgwyliedig tra'n cael eich cyflogi fel athrawes.

"Rhwng 12 Tachwedd na 15 Tachwedd 2013 fe wnaethoch gymryd arnoch eich bod yn ferch 13 oed i wneud adroddiad ffug i Childline fod y prifathro wedi cyffwrdd ynddo chi mewn modd amhriodol.

"Fe gawsoch rybudd gan yr heddlu ar 4 Mawrth 2014 am y drosedd o anfon neges gyda'r bwriad o achosi poen meddwl, anghyfleuster neu bryder di-angen."

Clywodd y gwrandawiad fod Edwards - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Eleri Roberts - yn cael ei chyflogi mewn ysgol uwchradd yn Llanidloes, Powys, 55 milltir i ffwrdd o Ysgol Ardudwy pan wnaeth hi'r alwad.

Cofrestr ddysgu

Ni wnaeth Eleri Edwards, o Landrindod, ymddangos yn y gwrandawiad ac mae nawr yn wynebu cael ei thynnu oddi ar y gofrestr ddysgu wedi i'r panel ddod i'r casgliad fod ei hymddygiad wedi 'ddisgyn islaw'r safonau sy'n ddisgwyliedig ohoni.'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Richard Parry Jones, fod yr achos yn ei herbyn wedi ei brofi.

Dywedodd: "Mae'r ffeithiau gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol."

Clywodd y gwrandawiad nad oedd Eleri Edwards yn bresenol am 'resymau iechyd', ac fe ofynnwyd iddi anfon datganiad ysgrifenedig cyn i'r penderfyniad gael ei wneud i dynnu ei henw oddi ar y gofrestr ddysgu.

Ychwanegodd Mr Parry Jones fod y pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth feddygol ac roedd y pwyllgor yn fodlon nad oedd Miss Edwards yn ddigon iach i fod yn bresenol yn y gwrandawiad.

Dywedodd y byddai'r pwyllgor yn cyfarfod eto ar yr achlysur cyntaf posib i ddod a'i hachos i derfyn.