Estyn am gael barn y cyhoedd am ei arolygu

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion

Mae Estyn - y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru - yn galw am sylwadau gan rieni, athrawon a disgyblion ynglŷn â'r ffordd y bydd ysgolion yn cael eu harolygu o fis Medi 2017.

Mae ymgynghoriad fydd yn para am chwe wythnos yn dechrau ddydd Mercher.

Dywedodd y prif arolygydd Meilyr Rowlands: "Mae addysg yn gwneud cyfraniad hollbwysig i fywydau plant a phobl ifanc. Mae arolygiadau yn ffordd o sicrhau bod ein system addysg y gorau y gallai fod.

"Ry'n ni'n awyddus i glywed barn unigolion a sefydliadau ar bob agwedd o arolygaeth, yn cynnwys beth y'n ni'n adrodd, y dyfarniadau ry'n ni'n eu gwneud a sut ry'n ni'n derbyn barn rhieni a disgyblion."

Mae'r holiadur ar gael ar-lein, ac mae fersiwn ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd y corff yn derbyn sylwadau nes 11 Tachwedd.