Corbyn: 'Y mandad ar gyfer newid'
- Cyhoeddwyd

Ar ôl dymchwel yn yr etholiad cyffredinol, mae'r Blaid Lafur yn gobeithio y bydd arwain newydd Llafur yn dechrau'r gwaith o ail-adeiladu'r blaid.
Bwriad Jeremy Corbyn yw cyflwyno ffordd wahanol o wleidyddiaeth.
Ac yn ei araith gyntaf i gynhadledd Llafur ers iddo gael ei ethol yn arweinydd, fe ddywedodd e'n blwmp ac yn blaen, ar ôl ennill bron i 60% o bleidleisiau aelodau a chefnogwyr y Blaid, bod ganddo'r "mandad ar gyfer newid".
Felly, fe glywon ni fe'n pwysleisio'r egwyddorion sy'n diffinio ei steil newydd o arwain: gwleidyddiaeth fwy caredig er mwyn creu cymdeithas ofalgar.
Egwyddorion y Blaid Lafur yw'r rheiny, meddai, a dyna'r egwyddorion mae angen i ni roi yn ôl i wleidyddiaeth.
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae syniadau economaidd asgell chwith Corbyn a'i wrthwynebiad i'r cyfnod presennol o lymder, yn fygythiad i ddiogelwch economaidd y wlad - i'r gwrthwyneb meddai Corbyn - y Torïaid sy'n peri'r bygythiad mwyaf.
Fe wnaeth e wrthod honiadau'r Ceidwadwyr nad oes "dewis arall" heblaw cael gwared a swyddi, torri credydau treth, a pharhau gyda'r cyfnod presennol o lymder.
Ar ôl cael ei feirniadu gan y papurau am fod yn fradwr, bu'n pwysleisio heddiw faint oedd e'n caru ei wlad - bod e'n cynrychioli egwyddorion Prydeinig - ond beth am Gymru?
Wel, oni bai iddo ddweud y gall Llafur ennill yn etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf, doedd na ddim sôn am Gymru yn ei araith,
Na chwaith oedd yna awgrym o le mae Corbyn yn sefyll ar ddatganoli pwerau i'r Cynulliad.
Bwriad Corbyn yw gwrando ar aelodau'r blaid cyn creu polisïau yn hytrach na'u penderfynu mewn stafelloedd cudd.
Ond mae barn aelodau cynulliad Llafur ar ddatganoli yn dra gwahanol i farn aelodau seneddol Cymreig y Blaid. Fe all ceisio cymodi'r ddwy ochr fod yn waith anodd.
Er nad oedd yr araith o'r safon uchaf, does dim dwywaith roeddech chi'n teimlo eich bod chi'n clywed gwir egwyddorion Jeremy Corbyn. Roedd e bendant yn arwydd o gyfeiriad newydd.
Mae'n amlwg bod yna groeso i'r cyfeiriad hynny tu fewn i'r Blaid Lafur, ond beth am du allan i furiau'r gynhadledd? Fe gawn weld yng Nghymru'r flwyddyn nesa'.