Dirwy i gwmni dur: 'Gwasgu i farwolaeth'
- Published
Yn Llys y Goron Caerdydd mae cwmni dur wedi cael dirwy o £112,500 wedi marwolaeth gweithiwr 37 oed.
Cafodd Mark Walker o Gasnewydd ei wasgu gan drawst dur oedd yn pwyso dwy dunnell.
Roedd yn ceisio symud darn o ddur pan gafodd ei ladd mewn stordy ym Mharc Diwydiannol Trident yng Nghaerdydd yn 2012.
Ar ôl ymchwiliad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch plediodd CMC UK yn euog i gyhuddiad o dorri deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Clywodd y llys nad oedd cyfarwyddiadau ynglŷn â chodi darnau dur yn ddiogel ac nad oedd Mr Walker wed cael ei hyfforddi.
Cafodd y cwmni orchymyn i dalu £96,000 o gostau.
Dywedodd Arolygydd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch Dean Baker ar ôl y gwrandawiad: "Pe bai'r weithred o godi wedi ei chynllunio a'i goruchwylio, fe fyddai Mr Walker yn fyw heddiw."