Myfyriwr yn Nhrefforest â Llid yr Ymennydd

  • Cyhoeddwyd
prifysgolFfynhonnell y llun, Google

Mae Prifysgol De Cymru wedi cadarnhau fod myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf yn yr ysbyty ar ôl dal llid yr ymennydd.

Aed a'r myfyriwr o neuadd breswyl yn Nhrefforest i'r ysbyty ar 28 Medi.

Does dim rhagor o fanylion am gyflwr yr unigolyn.

Mae bacteria meningococaidd yn byw yn y trwyn a'r gwddf ac yn symud o berson i berson drwy gysylltiad cyson a hir-dymor.

Triniaeth

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu triniaeth gwrthfiotig i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad a'r myfyriwr dan sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran y corff: "Mae pawb ddaeth i gysylltiad agos gyda'r myfyriwr yn cael eu hadnabod ac mae'r rhai sydd angen meddyginiaeth yn derbyn triniaeth.

"Nid oes risg ehangach i'r cyhoedd ac ni fydd unrhyw unigolyn arall angen triniaeth. Mae myfyrwyr eraill yn derbyn gwybodaeth lawn am y sefyllfa."

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru y dylai unrhyw un sy'n poeni am symtomau gysylltu a chanolfan iechyd y Brifysgol, llinell gymorth y Gwasanaeth Iechyd neu sefydliadau ymchwil Llid yr Ymennydd.