Colofn Jo Blog
- Cyhoeddwyd

Tra bod y rhan fwya' o'r genedl yn gorfoleddu ar ôl buddugoliaeth Cymru dros y Saeson yng Nghwpan Rygbi'r Byd, nid felly ein blogiwr gwadd, blin Jo Blog!
Dwi'n teimlo fel petawn i mewn rhifyn arbennig o Dr Who.
Dwi wedi ail-fyw yr un pedwar munud 69 o weithiau.
Allai ddim dianc. Yr un pedwar munud bob tro. A'r un yw'r canlyniad. Bob tro.
I ddechrau roedd o'n bleser pur. Erbyn hyn mae'n hunllef.
Rwyf wedi treulio 276 o funudau, 4 awr a 36 munud yn y cylch dieflig hwn.
Sdim ots ble dwi'n troi, radio, teledu, Facebook, Twitter… mae munudau olaf gêm Cymru a Lloegr yn cael eu dangos drosodd a throsodd a throsodd a throsodd.
Peidiwch a nghamddeall i - dwi'n foi rygbi a dwi'n Gymro da. Ond…
Allwn i wrando ar Clive Rowlands trwy'r dydd. Diawl mae'n gallu siarad Cymraeg! Ond…
Rwy'n siŵr bod llais Brynmor Williams yn iawn yn gadael Twickenham. Nonsens yw'r busnes yma ei fod o wedi colli ei lais yn canu ac yn dathlu cyfraniad ei fab i'r gêm. Gollodd e'i lais yn siarad ar Radio Cymru efo Kate Crockett, a Dylan Jones a Dewi Llwyd a Catrin Heledd, a Kate Crockett a Dylan Jones a Dewi Llwyd a Catrin Heledd.
Diolch i Dduw am fy hen fêt Gary Samuel. Fe yw'r unig un i mi glywed yn dweud, yng nghanol hyn oll, gêm mor uffernol o sâl oedd hi. Oedd, roedd y diwedd yn gyffrous. Do, fe gurwyd yr hen elyn. Do, fe wnaed hynny mewn ffordd eitha' ecseiting. Ond diawl roedd hi'n gêm sâl.
Ac fe allwn ni beidio mynd trwodd eto. Ac fe all Lloegr lwyddo i fynd trwodd eto.
Ni yw'r cyntaf i ddifrïo Lloegr am eu hobsesiwn gyda Chwpan Bêl-droed y Byd 1966. Ond 'da ni'n dioddef o fersiwn gwaeth. 'Da ni'n meddwl bod 'Dolig yn mynd i ddod bob dydd jyst achos ein bod ni wedi ennill un gêm.
Diolch byth bod helynt y ffoaduriaid wedi ei setlo, bod y dirwasgiad drosodd, bod Corbyn wedi troi allan i fod yn wleidydd saff yng nghanol y ffordd - fel pob gwleidydd arall. Diolch byth am hyn oll neu fydda 'na ddim lle ar yr holl raglenni teledu a radio i wneud lle i drafod y pedwar munud yma yn iawn.
Ac os ydw i'n iawn, mae yna Sadwrn ar y gorwel lle mae yna Ffwtbol Pwysig a Rygbi Pwysig ar yr un diwrnod. Beth wnaiff yr holl sylwebwyr chwaraeon yma? Fe allen nhw doddi, yn anghofio siâp y bêl, pwy sy'n cicio pryd, rhwng y pyst, dros y pyst, pa side ma' off-side? All Catrin Heledd gael selffi gyda pêl-rygbi a phêl-droed ar yr un diwrnod, ar yr un pryd… fe all fod yn ormod iddi. Fe all fod yn ormod i ni i gyd…
O diar, dwi'n teimlo'n rhyfedd. Co ni off… 69… 70…
Dwi'n teimlo fel petawn i mewn rhifyn arbennig o Dr Who.
Dwi wedi ail-fyw yr un pedwar munud 70 o weithiau.
Allai'm dianc. Yr un pedwar munud bob tro, a'r un yw'r canlyniad bob tro.
I ddechrau roedd o'n bleser pur. Erbyn hyn mae'n hunllef.
Rwyf wedi treulio 280 o funudau, 4 awr a 40 munud yn y cylch dieflig hwn.
HEEEEELLLLLLPPPPP!
Bydd Jo Blog yn ei ôl ar wefan Cymru Fyw pan fydd rhywun neu rywbeth wedi codi ei wrychyn.
Fe hoffai aelodau tîm Cymru Fyw dynnu eich sylw at y ffaith nad ydym ni erioed wedi gweld Jo Blog yn ein swyddfeydd, felly rydym ni yn cymryd mai cymeriad dychmygol ydy o!