Colli 125 o swyddi yng Nghas-gwent

  • Cyhoeddwyd
Maybe

Mae cwmni sydd yn adeiladu cydrannau i dyrbinau gwynt yng Nghas-gwent wedi cyhoeddi y bydd ei safle yn y dref yn cau.

Daw hyn yn dilyn cyfnod ymgynghorol gan gwmni Mabey Bridge gyda'u staff am ddyfodol y safle ar stad ddiwydiannol Newhouse, ac ymgais i ddod o hyd i waith mewn lleoliadau eraill i'r 125 o weithwyr.

Dywed y cwmni bod y gystadleuaeth ryngwladol ym maes ynni adnewyddol yn golygu nad oedd modd parhau gyda'r gwaith yng Nghas-gwent.

Dywedodd Juliette Stacey, cadeirydd Mabey Bridge: "Rydym wedi dilyn pob trywydd mewn ymgais i gadw'r safle ar agor, ond yn anffodus nid yw wedi bod yn bosib i wneud hyn. Hoffwn ddiolch i'n holl staff yn Newhouse sydd wedi gweithio mor galed i gyrraedd ymrwymiadau i gwsmeriaid i'r adran cyn iddi gau.

'Diwrnod anodd'

"Bydd Mabey Bridge yn parhau gyda'i weithgareddau o'i swyddfeydd yn Lydney, Swydd Gaerloyw, fel busnes sydd yn darparu gwasanaeth safonnol ac atebion isadeiledd yn y DU a thramor.

"Mae heddiw'n ddiwrnod anodd i Mabey Bridge ond fe wnawn ni ganolbwyntio ar adeiladu busnes cryfach a mwy hyfyw ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r newyddion yma heddiw yn hynod o siomedig. Ers y penderfyniad i roi'r busnes ar werth gan y Mabey Group yn gynnar yn 2015, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r grŵp i sicrhau dyfodol i'r safle dan berchnogaeth newydd.

"Rydym wedi cefnogi dau gynnig ar gyfer y busnes - fe fyddai'r ddau wedi diogelu gwaith ar y safle a sicrhau dyfodol diogel i'r busnes, ond roeddem yn siomedig fod yr un o'r ddau gynnig yn dderbyniol i Mabey Bridge.

"Yn amlwg, petai unrhyw gais newydd yn ymddangos fyddai'n diogelu swyddi ar y safle, byddai Llywodraeth Cymru yn barod i gynnig cefnogaeth.

"Yn y cyfamser, bydd ein hymdrechion yn cael eu cyfeirio at helpu gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi a sicrhau ein bod yn cynnig y cymorth a'r cyngor ymarferol angenrheidiol sydd ar gael iddyn nhw yn y sefyllfa bresenol."