Barnu diffyg gofal maeth Mwslimaidd cyngor

  • Cyhoeddwyd
MaethuFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae dyn Mwslimaidd wedi beirniadu staff gwasanaethau cymdeithasol am leoli ei fab, sydd mewn gofal yn nwylo awdurdod lleol yng Nghymru, gyda rhieni maeth nad ydynt yn Islamaidd.

Dywedodd y dyn wrth farnwr mewn llys teulu mai'r unig ffordd i "ddiogelu treftadaeth grefyddol a diwylliannol" ei fab yw trwy sicrhau ei fod yng ngofal Mwslemiaid.

Gofynnodd i'r Barnwr Gareth Jones i orchymyn fod y cyngor yn gwneud "trefniadau eraill" ynglŷn â magwraeth ei fab.

Ond dywedodd y Barnwr Jones: "Mae'r awdurdod lleol yma yng nghefn gwlad Cymru, ac o gofio am groestoriad demograffig y boblogaeth, mae'n annhebygol o ddarparu dewis o rieni maeth Islamaidd."

Ychwanegodd nad oedd y rhieni maeth yn yr achos yma o'r ffydd Fwslimaidd, ond dywedodd bod ganddyn nhw ddealltwriaeth wirioneddol o dreftadaeth grefyddol a diwylliannol y bachgen.

Daeth manylion yr achos mewn dyfarniad gan y Barnwr Jones yn dilyn gwrandawiad mewn tref Gymreig.

Dywedodd y barnwr na fyddai modd enwi'r bachgen, ac ni ddywedodd lle'r oedd y bachgen yn byw na'r cyngor dan sylw.