Ambiwlans: Amseroedd ymateb salach

  • Cyhoeddwyd
BBC

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gweld gostyngiad yn ei berfformiad misol ar gyfer amseroedd ymateb i alwadau brys am y tro cyntaf eleni.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 58.8% o ambiwlansys ar alwadau brys Categori A - lle mae bywyd mewn peryg - wedi cyrraedd o fewn wyth munud. Y targed ydi 65%.

Mae hyn yn ostyngiad o'r ffigwr o 61.7% ym mis Gorffennaf 2015.

Dywedodd y gwasanaeth ei fod yn "siomedig" ond fod 70% o'r bobl hynny oedd yn ddifrifol wael neu wedi eu hanafu wedi derbyn gofal o fewn amser.

Roedd na 37,613 o alwadau brys i'r gwasanaeth ym mis Awst - cynnydd o bron i 2% o fis Gorffennaf. O'r rhain, roedd 13,667 yn alwadau brys lle'r oedd bywydau mewn peryg.

Er bod yr amser ymateb yn well na flwyddyn yn ôl, mae'r perfformiad wedi gostwng yn dilyn cyfnod o saith mis o welliant.

Mae'r amser ymateb wyth munud i'r galwadau mwyaf brys - sy'n cael eu disgrifio fel galwadau Coch 1 - wedi gweld gostyngiad o 73.2% i 71.1%.

Rhanbarthau

Wrth edrych ar wahanol ardaloedd o Gymru, fe wnaeth ambiwlansys yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Casnewydd a Wrecsam gyrraedd y targed o 65%.

Ceredigion oedd yr ardal gyda'r perfformiad gwaethaf, gyda 48.5% o alwadau categori A yn cyrraedd o fewn wyth munud.

Pan fydd y ffigurau nesaf yn cael eu cyhoeddi ymhen mis, rhain fydd y ffigurau olaf i gael eu cyhoeddi o dan y drefn bresenol.

Bydd cynllun peilot i asesu galwadau brys 999 am y flwyddyn nesaf yn dechrau ddydd Iau. Fe fydd galwadau brys yn derbyn categorïau coch, oren neu wyrdd, ac fe fydd cleifion yn derbyn ymateb yn dibynnu ar eu sefyllfa.

O ganlyniad fe fydd yr amser ymateb o fewn wyth munud yn dod i ben, heblaw am rai i'r galwadau brys categori 'coch'.

Dywedodd prif weithredwraig Gwasanaeth Ambiwlans Cymru Tracy Myhill: "O dan y drefn newydd, fe fydd y cleifion hynny mewn perygl gwirioneddol o farw yn parhau i dderbyn ymateb brys i achub eu bywydau cyn gynted a phosib.

"Fe fydd cleifion eraill yn derbyn ymateb yn dibynnu ar eu hanghenion clinigol, ond ni fydd yn golygu taith i'r ysbyty bob tro. Fe all olygu cael eu cyfeirio at wasanaeth NHS Direct Cymru neu eu meddygon teulu."