B&Q yn cau naw o siopau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
B&Q

Mae cwmni siopau B&Q wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau naw o'u siopau yng Nghymru.

Fe fydd hynny'n gadael 15 o siopau eraill.

Er nad oes ffigwr penodol o nifer y gweithwyr fydd yn colli'u gwaith, mae'r BBC ar ddeall y bydd cannoedd yn cael eu diswyddo.

Mae'r siopau fydd yn cau yn y lleoliadau canlynol:

  • Ffordd Queensferry, Glannau Dyfrdwy;
  • Aberystwyth;
  • Ffordd Hadfield, Caerdydd;
  • Aberteifi;
  • Cwm-du, Abertawe;
  • Glyn Ebwy;
  • Gorseinon;
  • Castell-nedd;
  • Doc Penfro.

Nid yw'r cwmni wedi manylu ar faint o bobl fydd yn colli'u gwaith, ond maen nhw wedi dweud mewn datganiad:

"Ni wnaethon wneud y penderfyniad i ail-lunio'r rhwydwaith siopau ar chwarae bach, a bydd B&Q yn ymdrechu i ganfod swyddi i gymaint o weithwyr fydd yn diodde' ag sy'n bosib naill ai mewn siopau B&Q eraill gerllaw neu siopau eraill o fewn y Kingfisher Group megis Screwfix.

"Dros y misoedd nesaf byddwn yn canolbwyntio ar adleoli cymaint o gydweithwyr sy'n cael eu heffeithio gan y newidiadau yma ag y gallwn ni."