Carwyn yn amddiffyn ateb Corbyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi amddiffyn sylwadau arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, pan ddywedodd na fyddai'n barod i danio arfau niwclear pe byddai'n dod yn brif weinidog Prydain.
Pan ofynnwyd i Mr Corbyn mewn cyfweliad radio fore Mercher a fyddai'n gwasgu'r botwm niwclear, atebodd "Na".
Fe ddywedodd llefarydd Llafur ar Amddiffyn, Maria Eagle, nad oedd sylwadau Mr Corbyn yn help.
Ond wrth siarad ar raglen Y Sgwrs, dywedodd Carwyn Jones:
"Dydw i ddim yn credu y byddai unrhyw berson call yn dweud eu bod yn barod i wasgu'r botwm... dyna'r ateb naturiol y byddai unrhyw berson call yn ei roi.
"Ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni ystyried beth yw rôl Prydain, pa rôl sydd gan arfau niwclear, a beth yw rôl yr arfau hynny yng nghydbwysedd yr arfau ar draws y byd."
Yn 2012, achosodd Mr Jones gryn anghytuno pan awgrymodd y byddai croeso i longau tanfor niwclear Prydain yng Nghymru pe bydden nhw'n gadael yr Alban.