Trefn newydd i alwadau brys
- Published
Bydd system newydd i ddelio gyda galwadau 999 i ambiwlansys yn dod i rym yng Nghymru ddydd Iau.
Golyga'r drefn newydd y bydd targedau ar gyfer galwadau brys ond yn berthnasol ar gyfer sefyllfaoedd lle mae bywydau mewn perygl.
Bydd y drefn yn cael ei defnyddio am gyfnod prawf o flwyddyn.
Mae yna amcangyfrif y bydd 10% o'r 420,000 o "alwadau brys" nawr yn cael eu labelu'n "alwadau coch" - sef y rhai mwyaf difrifol.
Dywed rheolwyr y bydd y drefn yn galluogi'r gwasanaeth i flaenoriaethu'r galwadau mwyaf brys yn fwy effeithiol.
Mae cyrraedd targedau wedi bod yn broblem hirdymor i'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.
Roedd ffigyrau dydd Mercher - y rhai mwyaf diweddar - yn dangos dirywiad, ond cyn hynny bu gwellaint bychan am saith mis yn olynol.
Roedd y ffigyrau am Awst yn dangos fod 58.8% o alwadau brys - categori A - wedi cyrraedd o fewn wyth mynd.
Hen darged llywodraeth Cymru oedd 65%.
Gwrthbleidiau yn feirniadol
Bydd system goleuadau traffig - coch, ambr a gwyrdd - yn penderfynu sut y bydd y gwasanaeth yn ymateb i alwadau o hyn ymlaen.
Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio osgoi newyddion drwg drwy newid y targedau.
Yn ôl Plaid Cymru, mae'r cyfnod prawf yn "arbrawf peryglus".
Ond dywed Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y bydd y ffordd newydd o weithredu yn fodd o sicrhau fod y gwasanaeth yn un o'r rhai "mwyaf blaengar yn y byd".
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Hydref 2015