Gwaharddiad newydd ar ysmygu mewn ceir
- Cyhoeddwyd

O ddydd Iau ymlaen fe fydd hi'n anghyfreithlon i ysmygu mewn cerbyd sy'n cludo person dan 18 oed.
Fe fydd y ddeddf newydd - sy'n dod i rym yn Lloegr hefyd - yn golygu y gallai gyrwyr sy'n torri'r gyfraith wynebu dirwy o £50.
Dywed yr heddlu mae'r bwriad i ddechrau yw i beidio bod yn llawdrwm, ac i geisio hysbysu gyrwyr o'r ddeddf newydd.
Yn ôl y gweinidog iechyd, Mark Drakeford, daw'r gwaharddiad i rym oherwydd bod smygu mewn ceir yn gwenwyno plant.
Mae elusen y British Lung Foundation Cymru wedi dweud y bydd cannoedd o filoedd o blant yn cael eu hamddiffyn o ganlyniad i'r gwaharddiad
Fe fydd y gyrwyr sydd â ffenestri ar agor hefyd yn gallu wynebu dirwy, pe bai person dan 18 oed yn bresennol.
Ni fydd y ddeddf yn berthnasol i bobl sy'n gyrru ar eu pen eu hunain neu mewn car heb do.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012