Ail Gymro ar restr sancsiynau'r Cenhedloedd Unedig

  • Cyhoeddwyd
Aseel Muthana

Mae ail ddyn o Gaerdydd, sy'n ymladd ar ran IS yn Syria, wedi ei ychwanegu at restr sancsiynau'r Cenhedloedd Unedig.

Fe ddilynodd Aseel Muthana ei frawd, Nasser - sydd eisoes ar y rhestr - i Syria ddechrau 2014.

Mewn cyfweliad arlein gyda'r BBC y llynedd, dwedodd Aseel, sy'n 18 oed: "Rwy'n barod i farw ond mae Allah'n gwybod y gwirionedd y tu ôl i'r geiriau."

Fe fydd e'n cael ei wahardd rhag teithio a bydd ei asedau'n cael eu rhewi.

Y pedwar Prydeiniwr arall sy'n ymladd yn Syria sydd ar y restr sancsiynau'r Cenhedloedd Unedig yw: brawd Aseel, Nasser Muthana; Omar Hussain o High Wycombe; Aqsa Mahmood o Glasgow; Sally-Anne Chones o Chatham yng Nghaint.

Tacteg newydd yw'r sancsiynau i geisio atal llif o bobl rhag cael eu recriwtio gan grwp IS.

Yn ôl Heddlu Prydain, mae o leia 700 o Brydeinwyr wedi teithio i Syria ac Irac i gefnogi neu ymladd ar ran grwpiau jihadaidd. Mae tua hanner y rheiny wedi dychwelyd i Brydain.

Mae rhestr y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys 72 o fudiadau a 231 o unigolion.