Rhestr FIFA: Cymru yn wythfed yn y byd
- Cyhoeddwyd

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd yr wythfed safle yn rhestr detholion y byd - eu safle uchaf erioed.
Fe gyhoeddodd FIFA y rhestr ddiweddaraf fore dydd Iau ac mae Cymru wedi codi un lle'n uwch na Chile, oedd yn yr wythfed safle cyn hyn, ac mae carfan Chris Coleman ddau safle'n uwch na Lloegr erbyn hyn. Yr Ariannin sydd ar frîg y rhestr detholion.
Bydd Coleman yn cyhoeddi'r garfan fydd yn wynebu Bosnia Herzegovina ar 10 Hydref ac Andorra ar 13 Hydref am 11:00 ddydd Iau.
Yn y cyfamser mae disgwyl y bydd Gareth Bale a Joe Allen yn cael eu cynnwys yn y garfan, wedi i Bale ddioddef anaf i'w goes yn ddiweddar, ac mae Allen wedi methu dwy gêm ddiwethaf Cymru - un oherwydd gwaharddiad, ac un oherwydd anaf.