Coleman yn cyhoeddi carfan Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Bosnia Herzegovina ar 10 Hydref a 13 Hydref.
Mae'r garfan yn cynnwys Gareth Bale, sydd ddim yn chwarae i Real Madrid ar hyn o bryd o achos anaf, ac mae Joe Allen yn ôl yn y garfan wedi methu dwy gêm ddiwethaf Cymru - un oherwydd gwaharddiad, ac un oherwydd anaf.
Mae Emyr Huws hefyd yn y garfan. Dyw'r chwaraewr ifanc ddim wedi chwarae i Gymru ers eu gêm yn erbyn Gwlad Belg fis Tachwedd y llynedd.
Y Garfan yn llawn:
Gôl-geidwaid: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Daniel Ward (Aberdeen) , Owain Fôn Williams (Inverness Caledonian Thistle)
Amddiffynwyr: Ashley Williams (Abertawe), James Chester (West Bromwich Albion), James Collins (West Ham United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Adam Henley (Blackburn Rovers), Ashley Richards (Fulham);
Canol-cae: Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), Joe Allen (Lerpwl), David Vaughan (Nottingham Forest), Jonathan Williams (Crystal Palace, ond ar fenthyg i Nottingham Forest), Emyr Hughes (Wigan Athletic, ond ar fenthyg i Huddersfield United), Andy King (Caerlŷr), David Edwards (Wolverhampton Wanderers);
Ymosodwyr: David Cotterill (Birmingham City), Hal Robson-Kanu (Reading), Tom Lawrence (Blackburn Rovers, ar fenthyg o Gaerlŷr), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Milton Keynes Dons), Sam Vokes (Burnley).
Dadansoddiad Owain Llyr, Chwaraeon BBC Cymru:
"Mae is-reolwr Cymru Osian Roberts yn obeithiol y bydd Gareth Bale yn holliach ar gyfer y gemau yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 yn erbyn Bosnia Herzegovina ac Andorra.
Mae Bale wedi cael ei enwi yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer y ddwy gêm er nad ydi o wedi chwarae i'w glwb Real Madrid ers dros bythefnos ar ôl dioddef anaf i gefn rhan isaf ei goes yn erbyn Shaktar Donetsk yng Nghynghrair y Pencampwyr fwy na phythefnos yn ôl.
Ond mae o nôl yn ymarfer yn llawn hefo'r garfan ac mae disgwyl iddo fod yn holliach ar gyfer y gêm ddarbi fawr yn erbyn Athletico Madrid yn La Liga nos Sul.
Yn ôl Osian Roberts: "Mae o yn ôl yn ymarfer ac mae ei goes yn teimlo'n iawn. Mae gan Real gêm fawr y penwythnos yma ac mi fydd yn rhaid i ni aros i weld faint o funudau y bydd o'n ei chwarae.
"Mi fydd yn rhaid i ni wedyn asesu ei gyflwr wythnos nesaf i weld os y bydd o ar gael i ddechrau'r gêm yn erbyn Bosnia.
"Mae'n rhaid bod yn ofalus pan mae rhywun yn dychwelyd o anaf o ran faint o funudau maen nhw'n ei chwarae. Mi fydd ganddo ni well syniad o'i ffitrwydd ar ôl gêm Atletico."
Mae chwaraewr canol cae Lerpwl Joe Allen wedi ei gynnwys ar ôl iddo golli'r fuddugoliaeth yn erbyn Cyprus a'r gêm gyfartal yn erbyn Israel hefo anaf i'w goes. Er tydi Chris Coleman ddim yn siwr os y bydd o ddigon holliach i chwarae'n y ddwy gêm.
Ac mae chwaraewr canol cae Huddersfield, Emyr Huws hefyd yn dychwelyd i'r garfan. Tydi o ddim wedi chwarae ers y gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel fis Tachwedd diwethaf oherwydd anaf i'w goes."