Bannau Brycheiniog yng nghanol Llundain?

  • Cyhoeddwyd
mapFfynhonnell y llun, Google

Mae problem dechnegol gyda Google Maps yn golygu fod Bannau Brycheiniog wedi eu lleoli yng nghanol Llundain ar fap y cwmni.

Golyga hyn fod pobl sydd yn chwilio amdanynt yn cael eu cyfeirio rhyw 150 milltir i ffwrdd i ardal rhwng Chelsea a Knightsbridge ym mhrifddinas Lloegr.

Fe gyhoeddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddelwedd o'r map ar y we, gan ddweud: "Rydym nawr wedi symud. Caiff pobl Llundain welliant gyda diolch i Google Maps."

Ychwanegodd prif weithredwr yr awdurdod John Cook: "Wel, mae'r symud wedi dod fel dipyn o sioc i ni i gyd.

"Rwy'n siwr y bydd yn dod fel newyddion da i bobl Llundain sydd eisiau awyr iach y mynyddoedd ar stepan eu drws.

"Mewn gwirionedd dim ond tair awr o Lundain ydym ni - peidiwch â dibynnu ar eich Sat Nav na Google Maps - ewch tua chyfeiriad Bryste ar yr M4, croeswch y bont, gofynnwch am gyfeiriadau'n lleol ac fe fyddant yn gwybod ble rydym ni", meddai.