Terry Butcher yn gadael Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed Casnewydd wedi cyhoeddi bod eu rheolwr Terry Butcher wedi gadael y clwb, ac hynny ar ôl dim ond 12 o gemau wrth y llyw.
Daw'r cyhoeddiad ar yr un diwrnod y cafodd y newyddion ei gyhoeddi fod disgwyl i'r clwb gael ei redeg gan gefnogwyr, ar ôl i ymddiriedolaeth cefnogwyr gyrraedd targed o godi £195,000 er mwyn prynu'r clwb.
Gobaith yr ymddiriedolaeth ydi prynu'r clwb sydd yn ail adran Cynghrair Lloegr gan y perchenog presenol Les Scadding.
Fe lwyddodd yr ymddiriedolaeth i gyrraedd y nod ariannol yn hawdd, ac mae ganddynt £236,000 yn y coffrau yn dilyn ymgyrch codi arian oedd yn cynnwys cynnig cyfranddaliadau i gefnogwyr.
Dywedodd datganiad ar ran grŵp o gefnogwyr: "Dyna i chi gamp, ac un sydd yn gwneud i fwrdd yr ymddiriedolaeth deimlo'n wylaidd iawn."
Fe wnaeth yr ymddiriedolaeth gymryd rheolaeth o'r clwb sydd yn chwarae yn Rodney Parade ym mis Awst.
Cyfranddaliadau
Roedd y miliwnydd Les Scadding wedi cefnogi'r fenter, wrth i fwrdd y clwb sefyll o'r neilltu. Roedd Casnewydd wedi cyhoeddi'n barod fod Mr Scadding, oedd â mwyafrif y cyfranddaliadau, yn rhoi ei gyfranddaliadau i'r ymddiriedolaeth.
Mae'r perchnogion newydd posib yn dweud y bydd yr ymddiriedolaeth yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y clwb yn dangos cyfrifoldeb ariannol.
"Mae hyn yn bosib. Mae angen i ni fod yn ofalus o ran ein gwario, gan iselhau ein costau a chynyddu refeniw drwy nifer o sianeli", ychwanegodd y datganiad.
Trosglwyddiad
Fe fydd yn rhaid i'r Gynghrair Bêl-droed gymeradwyo trosglwyddiad y clwb i ddwylo'r ymddiriedolaeth, ond mae'r ymddiriedolaeth yn ffyddiog mae proses ffurfiol yn unig fydd hon.
"Nawr mae'r gwaith caled yn cychwyn go iawn", ychwanegodd y datganiad.
"Ddylie neb fychanu maint y sialens sydd o'n blaenau.
"Mae'r clwb wedi bod mewn lle anodd ac fe fydd yn cymryd dipyn o amser cyn iddo gyrraedd lle yr hoffai fod.
"Wedi dweud hynny, rydym yn hyderus y gallwn gyflawni hyn gyda'r cynlluniau sydd ganddon ni."
Mae Casnewydd ar waelod y gynghrair ar ôl ennill un gêm yn unig hyd yma y tymor hwn. Mae'r clwb yn wynebu Exeter yn Rodney Parade ddydd Sadwrn.