Cefnogaeth dywysogaidd
- Cyhoeddwyd
Tra bod nifer fawr o Gymry ar hyd a lled y byd wedi gwirioni gyda buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham, mae'r awdur Siôn Jobbins yn teimlo'n anesmwyth ynghanol y dathlu, fel y bu'n egluro wrth Cymru Fyw.
Mae buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr wedi ei sarnu i mi gan weld Prins William yn 'dathlu' a'r Cymry fel haid o gŵn bach eisiau maldod yn ymhyfrydu bod Prins yn ein 'cefnogi ni'.
Mae'r ffoto o Harry yn syllu'n syn a blin ar William wrth i hwnnw gefnogi Cymru yn ddarn gwych o sbin gan y Teulu Brenhinol. Gallwch chi ddychmygu'r cyfarfod beth amser yn ôl; pawb yn dysgu ei ran, Harry yn ymarfer y gŵg. I gyd wedi ei deilwrio i sicrhau bod y Cymry yn wasaidd ar gyfer yr Arwisgiad nesa'. Doedd dim hap yn hyn.
Pam bod hyn o bwys? Wel, am dros ganrif a mwy daeth y tîm rygbi yn symbol mor bwerus achos nad oedd gennym ni deulu brenhinol neu senedd neu fyddin ein hunain i ymfalchïo ynddyn nhw. Yn wahanol i'r Gwyddelod, mae ein ffyddlondeb i Brydeindod yn sicrhau hynny.
I ni, Gymry, mae cefnogi'r tîm rygbi yn rhywbeth pwysig. I William a Harry jyst 'bach o banter' yw e, bach o hwyl, fel taflu ceiniog i weld os yw un am gefnogi Man U a'r llall am arddel Man City. Bach o laff gan wybod eu bod nhw wedi gwneud pnawn da o waith i gadw eu teulu a'u ffortiwn yn saff, a bod y Cymry mor syfrdanol o ddwl i'w lyncu. Ac os oes rhaid dysgu'r anthem - wel, Wales is worth an Anthem.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn hyrwyddo Prins William fel symbol o'r tîm rygbi hwnnw. Byddai'n dda gweld yr Undeb yn rhoi'r un ysbryd ac amser ac urddas i hyrwyddo'r Gymraeg ac y maen nhw i hyrwyddo'r 'Royal Family'.
Yn y dyddiau cyn y gêm, roedd y we yn llawn jingoistiaeth dosbarth ddiflas. Roedd y Cymry 'sosialaidd' yn ymffrostio bod tîm Lloegr yn llawn toffs o'r ysgolion bonedd a'r Cymru yn aelodau o'r werin datws go iawn wedi mynd i ysgolion gyfun cyffredin. Ag eto, nawr, dyma'r un bobl yn ffoli bod William yn 'cefnogi' Cymru. William - ysgol fonedd Eton; yr ymgorfforiad o Doffyddiaeth os bu un erioed.
Cymru, y wlad dlotaf ym Mhrydain, gwlad, fel Albania, heb filltir o reilffyrdd trydan. Cymru, y wlad sydd wedi anfon ei milwyr i golli eu gwaed dros ryddid gwledydd eraill ond byth ei hun.
Mae William yn sefyll ar ben pyramid yr 1% sydd wedi dilyn polisïau i siwtio cyfoeth y 'City' ar gefn economi Cymru. Dosbarth ac ideoleg Brydeinig sydd wedi bod yn gyfrifol am dir-laddiad, rhyfeloedd... a'r 'Welsh Not'.
Dewiswyd William, nid am ei fod yn symbol o Gymreictod, ond yn hytrach am nad yw'n symbol o Gymreictod. Yn ei rôl fel tywysog, mae'n dweud yn glir, cewch chi fod yn Gymry - ond dim ond yn nelwedd Prydeindod. Fel Henry Ford a'i un dewis o liw car.
Mae William yn dweud, dyma ffiniau eich hunaniaeth ac uchelgais fel gwlad - gwlad sy'n cael chwarae gemau ond sydd yn rhy anaeddfed i fod yn wlad annibynnol go iawn fel Iwerddon. Mae annibyniaeth ar y cae rygbi yn iawn - ond cofiwch beidio meddwl y gallwch fod yn annibynnol ar y cae gwleidyddol (...na chriced).
Dwi'n siŵr fod William yn fachan neis - ond pwy sydd ddim? Symbol yw William, yn yr un modd mai symbol yw tîm rygbi Cymru.
Os mai William yw symbol rygbi Cymru yna, man a man, pam ddim cefnogi Lloegr?
Hoffwn weld Cymru'n ennill Cwpan y Byd. Ond mi f'aswn i'n falch iawn o weld Lloegr yn ennill y tlws a gweld Prins Harry yn talu'r pwyth yn ôl i'w frawd hŷn.
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno gyda safbwynt Siôn Jobbins? E-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk neu gysylltwch drwy @BBCCymruFyw ar Twitter.