Crabb yn beirniadu polisi amddiffyn Jeremy Corbyn

  • Cyhoeddwyd
Trident missile is fired during a test launchFfynhonnell y llun, MOD/Crown Copyright

Dywed Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb fod safiad gwrth-niwclear yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn i bob pwrpas yn cael gwared ar linell amddiffyn olaf Prydain.

Wrth ateb cwestiwn ar raglen Question Time BBC One dywedodd yr AS Ceidwadol mai dyletswydd gyntaf unrhyw brif weinidog yw amddiffyn y cyhoedd ond bod yr arweinydd llafur wedi methu yn hynny o beth.

Mae Mr Corbyn hefyd wedi cael ei feirniadu am ei safiad o fewn rhengoedd y Blaid Lafur.

Ond fe wnaeth AS Aberafan, Stephen Kinnock, amddiffyn ei arweinydd.

Dywedodd Mr Crabb, AS Preseli Penfro: "Rwy'n credu ei fod yn safiad anghywir - bod rhywun sydd am fod yn brif weinidog - yn dweud na fyddai'n defnyddio rhai o'n harfau a hefyd Nato er mwyn amddiffyn a diogelu ein gwlad. Mae'n gam gwag o ran Llafur."

Adolygiad

Dywedodd Mr Kinnock fod Llafur yn cynnal adolygiad o'u polisïau ar amddiffyn.

"Mae Jeremy wedi mynegi ei safbwynt, a bydd hynny'n rhan o'r adolygiad.

"Dyw hynny ddim yn ei rwystro rhag bod yn brif weinidog, oherwydd mae barn y cyhoedd hefyd yn rhanedig.

"Fy marn bersonol yw bod angen arfau niwclear er mwyn atal ymosodiadau, a byddaf yn amddiffyn y farn honno o fewn y blaid."

Dywedodd Mr Crabb fod rhaid i rywun fod yn "gyfrifol am gymryd y penderfyniad."

Ond dywedodd Mr Kinnock: "Un o elfennau pwysicaf arweinyddiaeth yw'r gallu i gyfaddawdu."