Cyhuddo dau o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i ddyn gael ei saethu mewn cilffordd ar yr A4059 yng Nghwm Cynon ym mis Gorffennaf.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Mark Jones, 43 oed, o Aberpennar wedi marw ddydd Sadwrn yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Roedd Stephen Bennett, 52 oed o Bontypridd, ac Edward Bennett, 47 oed o Aberpennar, wedi bod yn y ddalfa ers mis Gorffennaf.
Mae disgwyl y bydd y ddau yn ymddangos gerbron y llys eto ar 11 Rhagfyr er mwyn pledio.