Cyhuddo dau o greulondeb i blant
- Cyhoeddwyd

Mae dau swyddog gydag uned cyfeirio plant yng Ngwynedd wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiadau o greulondeb i blant.
Mae Bedwyr Evans, 41, a Garry Vaughan Roberts, 43, yn wynebu cyfanswm o 50 o gyhuddiadau.
Honnir fod y troseddau wedi digwydd yng Nghanolfan Brynffynnon yn y Felinheli rhwng Medi 2006 a Mawrth 2014.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth a byddant yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar 12 Hydref.
Fe wnaeth bargyfreithiwr y ddau, Richard Brigden, ofyn i ynadon roi gwaharddiad yn atal y wasg rhag enwi'r ddau ddyn.
Honnodd fod y ddau wedi cael eu bygwth nifer o weithiau.
Cafodd y cais ei wrthod gyda'r ynadon yn dwedu fod eu henwau eisoes wedi ymddangos ar restr enwau y llysoedd ac felly eisoes yn wybyddus i'r cyhoedd.