Coma ffug: Dedfrydu cwpl am wyrdroi cwrs cyfiawnder

  • Cyhoeddwyd
Cafodd Alan Knight ei ddal ar gamerâu cylch cyfyng archfarchnadFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Alan Knight ei ddal ar gamerâu cylch cyfyng archfarchnad

Mae cwpl o Abertawe wedi cael dedfrydau o garchar am wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy esgus nad oedd y dyn yn ddigon iach i sefyll ei brawf am ei fod mewn coma.

Roedd Helen Knight, 33, o Sgeti, a'i gŵr Alan Knight, 48, yn wynebu'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.

Roedd y ddau wedi pledio'n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd Alan Knight, sydd eisoes dan glo, ddedfryd o 14 mis. Bydd y ddedfryd yn cael ei hychwanegu i ddedfryd arall nôl ym mis Tachwedd y llynedd pan gafodd ei garcharu am bedair blynedd a hanner ar gyhuddiadau o dwyll a ffugio.

Roedd o wedi dwyn mwy na £40,000 oddi wrth gymydog oedrannus oedd a dementia.

Cafodd Helen Knight ei charcharu am 10 mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd hi wedi dechrau ymgyrch yn dweud bod ei gwr wedi ei barlysu a byddai'n annheg iddo sefyll ei brawf.

Ysgrifennodd lythyrau at y prif weinidog ei haeloda seneddol lleol a'i haelod cynulliad lleol yn dweud bod ei gwr mewn cyflwr diymadferth parhaol.

Clywodd y llys i'r heddlu weld tystiolaeth fod Alan Knight wedi bod ar dripiau siopa ac ar wyliau gyda'i deulu tra'n honni ei fod mewn coma.

Roedd Alan Knight hefyd wedi bod yn yr ysbyty am 10 wythnos gan ffugio ei fod yn sâl, ond roedd pob prawf gafodd ei gynnal arno yn negyddol.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,
Ar achlysur blaenorol roedd Alan Knight wedi cyrraedd y llys mewn cadair olwyn
Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y llun yma ei ddangos i'r llys, roedd o yn ystod y cyfnod pan oedd Alan Knight yn honni ei fod rhy sal i fynychu'r llys
Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Llun arall o'r cwpwl, yn y cyfnod pan oedd Alan Knight yn "rhy sal" i fynychu achos llys.