'Ni ddylai unrhyw swydd fod allan o gyrraedd merched'

  • Cyhoeddwyd
Pippa BrittonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe enillodd Pippa Britton chwech o fedalau byd a chynrychioli Prydain yn y Paralympics yn 2008 a 2012

Ni ddylai unrhyw swydd fod "allan o gyrraedd" merched, medd un o weinidogion llywodraeth Cymru.

Fe ddaw'r neges wrth i sêr chwaraeon, peirianwyr a gwyddonwyr blaenllaw geisio ysbrydoli merched yng Nghymru i ddilyn gyrfaoedd mewn diwydiannau sy'n cael eu dominyddu gan ddynion.

Dywedodd Gweinidog y Cymunedau, Lesley Griffiths fod angen "taclo'r rhwystrau" sy'n atal merched rhag ymgeisio am swyddi sy'n talu'n well.

Bydd mwy na 100 o ferched rhwng 16 a 18 oed, yn cael cyngor ar sut i gyrraedd y brig mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ddydd Gwener.

Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn y gynhadledd yn cynnwys Alison Westcott, peiriannydd dylunio mecanyddol gyda chwmni technoleg Raytheon, rhaglennydd cyfrifiadurol y Llu Awyr Brenhinol, Y Corporal Clare Loughran, a saethwr Paralympiad Pippa Britton.

Bydd Julie Williams, sydd wedi bod yn gweithio fel prif ymgynghorydd gwyddonol Cymru ers dwy flynedd ac Alison J McMillan, athro mewn technoleg awyrofod ym Mhrifysgol Glyndŵr, hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Welsh Government
Disgrifiad o’r llun,
Julie Williams sydd wedi bod yn gweithio fel prif ymgynghorydd gwyddonol Cymru ers dwy flynedd

Dywedodd Lesley Griffiths: "Mae cyflawniadau'r merched yn y digwyddiad heddiw yn dangos i ni nad oes unrhyw swydd allan o gyrraedd merched.

"Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn cael clywed am y rhwystrau mae merched sydd wedi llwyddo mewn bywyd wedi wynebu ar hyd y ffordd.

"Rhaid i ni gydnabod y rhwystrau hyn, a mynd i'r afael â nhw, os ydym am atal merched rhag cael eu cau allan o rai gyrfaoedd, a heb gynrychiolaeth ddigonol mewn llawer o swyddi sy'n talu'n well."

Dywedodd yr Athro McMillan y gall agor drysau i fwy o ferched "arwain at newidiadau mawr".

"Mae cyfraniad merched mewn meysydd sy'n arloesi, yn golygu y gall y diwydiannau ddatblygu cynnyrch sy'n gwella bywydau merched a dynion, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i broffidioldeb cwmnïau," ychwanegodd.