Oedi yn natblygiad Lagŵn Bae Abertawe
- Cyhoeddwyd

Fe fydd oedi cyn dechrau ar y gwaith o adeiladu lagŵn llanw gwerth £1bn ym Mae Abertawe tan 2017.
Cafodd y cwmni tu ôl i'r fenter, Tidal Lagoon Power Ltd (TLP), sêl bendith yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ym mis Mehefin.
Mae TLP wedi bod mewn trafodaethau i weld faint o gymhorthdal fydd yn cael ei dalu am yr ynni fydd yn cael ei gynhyrchu ond mae'r trafodaethau hyn yn parhau.
Mae'r cwmni hefyd yn aros am drwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Morglawdd
Unwaith y byddai'r cynllun wedi ei adeiladu, byddai 'wâl fôr' chwe milltir o hyd yn ymestyn rhwng y dociau a champws newydd Prifysgol Abertawe ar Ffordd Fabian.
Byddai 16 o dyrbinau tanddwr o fewn ffiniau'r 'wâl fôr' yn cynhyrchu trydan am 14 awr y dydd. Fe fydd y tyrbinau'n gallu cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 155,000 o gartrefi, neu 90% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio gan gartrefi ardal Bae Abertawe.
Byddai'n cymryd dwy flynedd i adeiladu'r cynllun gan greu 1,850 o swyddi adeiladu, a 180 o swyddi pan fydd y lagŵn yn weithredol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi benthyciad masnachol o £1.25 miliwn i Tidal Lagoon Power.
Sialensau
Cyn i'r cynllun gael ei gwblhau bydd angen i'r cwmni wynebu tair prif sialens:
- Mae cost y cynllun wedi bron a dyblu i £1bn. Er mwyn i'r cynllun weld golau dydd fe fydd yn rhaid cytuno ar bris cymhorthdal ynni gan y llywodraeth, ac mae'r cwmni'n gofyn am bris uwch na ffynhonellau ynni o dyrbinau gwynt, ynni'r haul neu niwclear.
- Bydd angen diweddaru adroddiad sydd yn dangos i'r llywodraeth fod y dechnoleg fydd yn cael ei ddefnyddio yn hyfyw.
- Bydd angen ateb pryderon amgylcheddol am godi tywod o wely'r môr, a'r effaith posib ar bysgod cyn y bydd trwydded forol yn cael ei rhoi.
Dadansoddiad Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru:
"Mae angen tair elfen cyn i lagŵn Abertawe gael ei adeiladu - trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, cytundeb gyda Stâd y Goron ac yn fwyaf pwysig, cymhorthdal o £168 y megawatt yr awr i'r ynni fydd yn cael ei gynhyrchu.
Hyd yn hyn mae swyddogion yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn cymryd eu hamser. Pam? Achos fod y gefnogaeth gan y llywodraeth y mae'r cwmni'n ofyn amdano o lanw a thrai y môr yw'r drytaf eto (byddai gorsaf niwclear Hinkley C, petai'n cael ei adeiladu, yn derbyn £89-£92.50 y megawatt yr awr) - ac mae'r cwmni'n gofyn am y cymhorthdal am 35 o flynyddoedd.
Arian cyhoeddus fyddai hwn, mewn cyfnod lle mae toriadau i'r pwrs cyhoeddus wedi bod yn niferus a chyson mewn nifer o wasanaethau cyhoeddus. Yn ôl yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd nid oes amserlen bendant i'r trafodaethau ariannol, ac mae'r adran yn pwyso a mesur cynlluniau'r cwmni yn ofalus.
Mae'r oedi yn y broses adeiladu o wanwyn 2016 i fis Mawrth 2017 yn golygu y bydd mwy o amser i gytuno ar y trefniadau ariannol, ac nid yw'n ymwneud a'r dechnoleg ddiweddaraf o ran tyrbinau tanddwr i gynhyrchu ynni.
Ond yr hyn sydd yn hynod o bwysig yw'r cynllun arfaethedig i wneud cymaint o waith a phosib allan yn y môr pan fydd y tywydd yn fwy ffafriol. Felly fe fydd y newid amserlen yn golygu osgoi gweithio'n hwyrach yn y flwyddyn. Fe allai rhywfaint o'r gwaith ar y tir ger Abertawe fynd yn ei flaen y flwyddyn nesaf gan fod y cwmni wedi cyrraedd sefyllfa ble bydd modd cynllunio'r gwaith adeiladu.
Yr hyn sydd yn cyffroi llywodraeth y DU yw os bydd lagŵn Abertawe'n cael ei weld fel llwyddiant, yna fe allai arwain at nifer o lagwnau eraill - llawer iawn mwy ger Caerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn.
Fe allai rhain gynhyrchu ynni am hyd at 120 o flynyddoedd drwy gysondeb y llanw. Mater brys arall yw y gallai chwarter pwerdai ynni Prydain gyrraedd pen eu hoes yn y 10 mlynedd nesaf, a'r ofn yw na fydd digon o ynni'n cyrraedd y grid cenedlaethol yn dilyn hyn. Fe allai hyn arwain at gyfnodau heb ynni yn ddi-rybudd."