Blwyddyn o garchar i yrrwr fan

  • Cyhoeddwyd
Damian NiepiekloFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Damian Niepieklo wedi cyfadde achoi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal

Mae gyrrwr fan o Wlad Pwyl wedi cael ei garcharu am flwyddyn wedi iddo gyfadde' achosi marwolaeth dyn trwy yrru'n ddiofal.

Bu farw Alan Desmond Cronin, oedd yn 60 oed, pan gafodd ei daro gan fan oedd yn cael ei gyrru gan Damian Niepieklo, 22 oed, ar 11 Mehefin ar yr A483 ger Yr Orsedd yn ymyl Wrecsam.

Yn wreiddiol cafodd Niepieklo ei gyhuddo o'r drosedd fwy difrifol o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, ond gollyngwyd y cyhuddiad yna gan yr erlyniad.

Roedd hefyd wedi gwadu peidio stopio wedi'r digwyddiad ac o beidio adrodd am y ddamwain gan honni ei fod yn credu iddo daro brigyn. Fe'i cafwyd yn euog gan ynadon lleol.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrth ei ddedfrydu: "Roedd hon yn ddamwain na ddylai fyth fod wedi digwydd.

"Roedd yn ddamwain y gellid fod wedi ei hosgoi mor hawdd pe byddech chi wedi bod yn talu sylw cywir."

Dywedodd yr Arolygydd Martin Best o uned blismona ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Roedd gweithredoedd Niepieklo wedi'r digwyddiad yn warthus gan ddangos diystyriaeth lwyr am les Mr Cronin.

"Dim ond oherwydd cymorth y cyhoedd, y tystion a ddaeth ymlaen a gwaith ymchwilio'r heddlu y cafodd Niepieklo ei arestio, ei gyhuddo a'i lusgo gerbron y llysoedd.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae teulu a ffrindiau Mr Cronin yn dal yn ein meddyliau."