300 o swyddi ar gael yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
parc siopa BrychdynFfynhonnell y llun, Google

Mae ffair swyddi'n cael ei chynnal yn Sir y Fflint ddydd Sadwrn a dydd Sul, gydag oddeutu 300 o swyddi ar gael.

Ymysg y swyddi - mae 200 yn siop newydd Primark Parc Siopa Brychdyn.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn y parc siopa.

Fe ddywedodd dirprwy reolwr y parc, Charlie Warr: "Mae siopau'n chwilio am bobl i lenwi swyddi llawn amser a rhan amser, yn ogystal â pharatoi at gyfnod prysur y Nadolig.

"'Dy ni'n annog pobl i ddod draw i gwrdd â ni."