Croesawu Eisteddfod yr Urdd i'r Fflint

  • Cyhoeddwyd
Gorymdaith yr Ŵyl Gyhoeddi
Disgrifiad o’r llun,
Rhan o orymdaith yr Ŵyl Gyhoeddi yn y Fflint

Daeth cannoedd i orymdeithio yn y Fflint ddydd Sadwrn yn yr Ŵyl Gyhoeddi i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Sir y Fflint mis Mai 2016.

Fe wnaeth yr orymdaith gychwyn o Ysgol Uwchradd y Fflint i Gastell y Fflint, gan adael yr ysgol am 1pm.

Ar ôl cyrraedd y castell, roedd prynhawn o hwyl i'r teulu rhwng 2pm a 4pm.

Cafodd plant a phobl ifanc eu hannog i wisgo coch, gwyn a gwyrdd.

Yn ôl Jeremy Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, "Rydym yn edrych ymlaen at ddiwrnod o ddathlu yn y Fflint. Bydd yn gyfle i ni greu bwrlwm ar gyfer gŵyl ieuenctid yr Urdd a'r gobaith yw y bydd yn ddiwrnod o hwyl i'r plant a'r pobl ifanc.

"Bydd yn gyfle hefyd i ni dynnu sylw trigolion Sir y Fflint a Chymru gyfan fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ymweld â'r ardal, 30 Mai - 4 Mehefin 2016."

Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr orymdaith yn cychwyn o Ysgol Uwchradd y Fflint
Disgrifiad o’r llun,
Un o selogion yr Ŵyl Gyhoeddi yn ymuno yn yr orymdaith
Disgrifiad o’r llun,
Rhan o ddathliadau'r Gŵyl Cyhoeddi er mwyn croesawu Eisteddfod yr Urdd i Sir y Fflint yn 2016