Dathlu ei phen-blwydd yn 110 oed

  • Cyhoeddwyd
gwenllian davies

Mae Gwenllian Davies yn dathlu ei phen-blwydd yn 110 oed ddydd Sul - a chredir mai hi yw'r person hynaf yng Nghymru

Cafodd ei magu yng Nghilybebyll ger Pontardawe, yn un o saith o blant i Hannah ac Owen Jones.

Fe briododd ym 1936 a symud i Fryncaws.

Fe fuodd hi'n byw yno gydag Arthur, ei gŵr ar y fferm tan 1970.

Wedi i Arthur farw, fe fu hi'n byw ar ei phen ei hun tan ei bod hi'n 104 oed. Roedd hi'n dal i chwynnu'r ardd tan ei bod hi dros ei 100 oed.

Erbyn hyn, mae hi'n byw yng nghartref preswyl Awel Tywi yn Ffairfach, Llandeilo.

Yn ôl nai Mrs Davies a'i wraig - Martin ac Eleri Davies - dyw hi'n methu clywed, ac mae'n cael trafferth gweld erbyn hyn ond "mae hi'n annwyl iawn gyda ni gyd, mae hi'n berson hyfryd".

"Mae hi'n dal i fyta llond plat...ac mae'n dal i fedru cerdded ar ei phen ei hun.

"Mae hi wedi gweithio yn galed iawn, erioed... Mae ganddi gorff ac ewyllys cryf iawn."

Pan ofynnwyd i Mrs Davies beth oedd y datblygiad mwyaf iddi hi yn ystod ei hoes - ei hateb oedd medru cael dŵr poeth yn y tŷ. Cyn hynny, roedd hi'n mynd i ôl dŵr o'r pistyll ac yn ei ferwi ar y tân.

Mae parti yn cael ei gynnal yng nghartref Awel Tywi yn Ffairfach ddydd Llun, a bydd arddangosfa o'i hanes hi ac o'r digwyddiadau mawr yn ystod ei bywyd yn cael ei chynnal.