Gobeithio datrys dirgelwch 17 o gyrff

  • Cyhoeddwyd
car heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am gymorth i geisio datrys dirgelwch am 17 o gyrff fu farw yn yr ardal dros y 40 mlynedd diwethaf.

Mae'r cyrff - gafodd eu canfod rhwng 1968 a 2011 - yn parhau i fod heb eu hadnabod.

Does dim yn cysylltu'r achosion, a dyw'r marwolaethau ddim yn rhai amheus.

Fodd bynnag, mae'r heddlu eisiau rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd y bobl, ac yn gobeithio y bydd y dechnoleg DNA ddiweddara' o gymorth.

'Yn ddyletswydd'

Y Ditectif Gwnstabl Don Kenyon sy'n arwain yr ymchwiliad.

Fe ddywedodd: "Fel llu, mae'n ddyletswydd arnom ni i adnabod y bobl yma, a dyw'r ddyletswydd honno ddim yn pallu oherwydd treigl amser.

"Yn bersonol, wedi i mi siarad â theuluoedd pobl sydd wedi bod ar goll ers blynyddoedd, mae'n glir nad yw'r boen a'r gwewyr yn pallu dros y blynyddoedd.

"Pan mae rhywun yn marw a chorff yn cael ei ganfod, yna mae'r teulu'n gallu deall beth sydd wedi digwydd. Ond dyw'r teuluoedd yn yr achosion hyn heb gael cyfle i alaru gan nad ydyn nhw'n gwybod ydi eu perthynas nhw'n fyw neu'n farw."

Ar lan y môr

Mae mwy na hanner yr achosion yn ymwneud â chyrff gafodd eu canfod ar lan y môr, yn cynnwys dyn rhwng 45 a 60 oed gafodd ei ganfod ger clogwyni Ynys Lawd yn 1975 a dynes yn y môr ger Y Bermo yn 1976.

Yn ôl yr heddlu, mae 'na siawns na chaiff rhai o'r cyrff eu hadnabod, yn enwedig rhai allai fod wedi dod i'r lan o dramor.

Mae'r Ditectif Gwnstabl Kenyon am glywed gan "unrhywun sydd gan atgofion am rywun yn mynd ar goll. Efallai nad ydyn nhw'n atgofion uniongyrchol - ond 'falle eu bod nhw'n cofio stori am fodryb neu ewythr yn diflannu."