Hepgor pleidleiswyr oddi ar y gofrestr etholiadol?
- Cyhoeddwyd

Gallai rhai pleidleiswyr yng Nghymru gael eu hepgor oddi ar y gofrestr etholiadol cyn Etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.
Mae'r comisiwn yn "siomedig" fod llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y broses o gyfnewid i system newydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2015 yn hytrach na 2016.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU fod yr honiadau yn "nonsens" ac na fyddai unrhyw un yn colli ei bleidlais.
Yn ôl y comisiwn, ym mis Mai, roedd 70,000 o bleidleiswyr yng Nghymru yn dal i aros i gael eu trosglwyddo i'r system newydd.
Fe fydd pleidleiswyr sydd heb eu prosesu yn cael eu hepgor oddi ar y gofrestr, a bydd rhaid iddynt ail-gofrestru os ydyn nhw am gymryd rhan yn etholiadau'r cynulliad y flwyddyn nesaf.
Fe ddywedodd pennaeth ymchwil y Comisiwn Etholiadol, Phil Thompson: "Yn ein týb ni, mae hon yn risg - 'dy chi'n tynnu pobl oddi ar y gofrestr sy'n dal yn gymwys i bleidleisio. Drwy wneud hynny, 'dy chi'n rhoi'r baich arnyn nhw i ail-gofrestru mewn pryd".
Mewn sgwrs â rhaglen Sunday Politics BBC Cymru, fe ddywedodd Mr Thompson fod gwaith canfasio yn mynd rhagddo i geisio gostwng y nifer sydd wedi eu heffeithio.
Mewn araith yr wythnos ddiwethaf, fe gyhuddodd arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn y blaid Geidwadol o geisio dylanwadu ar ganlyniadau drwy orfodi pleidleiswyr i ail-gofrestru.
Yn ogystal, fe ddywedodd bod y llywodraeth wedi newid y dyddiad cau gan wybod y bydd y comisiwn ffiniau yn defnyddio'r data fel sail i'w gwaith wrth adolygu ffiniau etholaethau.
Yn y cyfamser, mae cyn gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig a'r cyn AS Jonathan Evans wedi dweud fod y rhestr bresennol yn "ddiffygiol" a bod angen ei newid cyn etholiadau'r flwyddyn nesaf.
"Rwyf i yn bersonol wedi derbyn tri neu bedwar llythyr oddi wrth y Comisiwn Etholiadol yn amlinellu sut mae'r system yn newid a does dim angen oedi am flwyddyn arall."